Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/952

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

14:9 Yn wir meddaf i chwi. Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.

14:10 ¶ A Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i’w fradychu ef iddynt.

14:11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.

14:12 ¶ A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta’r pasg?

14:13 Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef.

14:14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod yr Athro yn dywedyd. Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf, mi a’m disgyblion, fwyta’r pasg?

14:15 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod: yno paratowch i ni.

14:16 A’i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i’r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg.

14:17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda’r deuddeg.

14:18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a’m bradycha i.

14:19 Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi?

14:20 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe.

14:21 Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: ond gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid.

14:22 ¶ Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.

14:23 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a’i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono.

14:24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer.

14:25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.

14:26 ¶ Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.

14:27 A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir.

14:28 Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea.

14:29 Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto ni byddaf fi.

14:30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith.

14:31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. A’r un modd y dywedasant oll.

14:32 A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo.

14:33 Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr.

14:34 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch.

14:35 Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.

14:36 Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.

14:37 Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr?

14:38 Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr