ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan.
14:39 Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd.
14:40 Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo.
14:41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid.
14:42 Cyfodwch, awn; wele, y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.
14:43 ¶ Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid.
14:44 A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr.
14:45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd. Rabbi, Rabbi; ac a’i cusanodd ef.
14:46 ¶ A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a’i daliasant ef.
14:47 A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.
14:48 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala i?
14:49 Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni’m daliasoch: ond rhaid yw cyflawni’r ysgrythurau.
14:50 A hwynt oll a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.
14:51 A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a’r gwŷr ieuainc a’i daliasant ef.
14:52 A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.
14:53 ¶ A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef.
14:54 A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân.
14:55 A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant.
14:56 Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson.
14:57 A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd;
14:58 Ni a’i clywsom ef yn dywedyd. Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.
14:59 Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson.
14:60 A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?
14:61 Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig?
14:62 A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau’r nef.
14:63 Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion?
14:64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a’i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.
14:65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail.
14:66 ¶ Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr archoffeiriad:
14:67 A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda’r Iesu o Nasareth.
14:68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i’r porth; a’r ceiliog a ganodd.
14:69 A phan welodd y llances ef drachefn, hi a ddechreuodd ddy-