Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/960

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.

36 Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod;

37 Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid ai allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.

38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem.

39 Ac wedi iddynt orffen pob peth yn el deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwel¬asant i Galilea, i’w dinas eu hun Nasareth.

40 A’r hadigen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41 A’i ricni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg. 42 A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwyild oed, hwynt-hwy a aethant i fyny i Jcrwti.ilem yn ôl defod yr wyl.

43 Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arbosodd y baeligen Iesu yn JcrwsaliBia, ac ni wyddai Joseff a’i fam ef: ,

44 Eithr gaa’dybied ei fod ef yo y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod.

45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef.

46 A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.

47 A synnu a wnaeth ar bawb a’r’a’i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a’i atebion.

48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly 8 ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di.

49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad?:

50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.

51 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.

52 A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.


PENNOD 3

1 YN y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a’i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,

2 Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas, y daeth gair Duw at loan, mab Sachareias, yn y diffeithwch.

3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;

4 Fel y mae yn ysgrifcnedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llcfain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union.

5 Fob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a’r gwyrgeimion a wneir yn union, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad;

6 A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.

7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo’i 0 genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagry" buddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas ‘i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.

9 Ac yr awr hon y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10 A’r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd. Pa beth gan hynny a wnawn ni?