Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/961

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr un; a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.

12 A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.

14 A’r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na chamachwynwch ar neb; a byddwch fodlon i’ch cyflogau.

15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am loan, ai efe oedd y Crist;

16 loan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi a dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi a’r Ysbryd Glân, ac a than.

17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl.

19 Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,

20 A chwanegodd hyn hefyd heblaw’r cwbl, ac a gaeodd ar loan yn y carchar.

21 Sj A bu, pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl, a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef,

22 A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y’m bodlonwyd.

23 A’r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y tybid) i Joseff, fab Eli,

24 Fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseff,

25 Fab Matathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai,

26 Fab Manth, fab Matathias, fab Semei, fab Joseff, fab Jwda,

27 Fab Joanna, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,

28 Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er,

29 Fab Jose, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi,

30 Fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonan, fab Eliacim, ,

31 Fab Melea, fab Mainan, fab Mat-atha, fab Nathan, fab Dafydd,

32 Fab Jesse, fab Obed, fab Boos, fab Salmon, fab Naason, - ‘

33 Fab Aminadab, fab Aram, fab Bsrom, fab Phares, fab Jwda,

34 Fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, lab Thara, fab Nachor,

35 Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala,

36 Fab Cainan, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech, ...

37 Fab Mathwsala, fab Enoch, fab Jared, fao Maleleel, fab Cainan,

38 Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.


PENNOD 4

1 AR Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iordd¬onen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch,

2 Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeu-gain niwrnod. Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd.

3 A dywedodd diafol wrtho, Os mab ‘ Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg faon fel y gwneler hi yn fara.

4 A’r Iesu a atebodd iddo, gan ddy¬wedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw.

5 A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr.

6 A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll,