Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/962

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi.

7 Os tydi gan hynny a addoli o’m.blaen, eiddot ti fyddant oll.

8 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, DOS ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dŷ Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi.

9 Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem, ac a’i gosododd ar binacl y deml, ac a ddy¬wedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma:

10 Canys ysgrifenedig yw, Y gorchy-myn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di;

11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.

12 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dŷ Dduw.

13 Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.

14 A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôna. aelh amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch.

15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16 Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarilen.

17 A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr» efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,

18 Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu-i’r tlodion yr anfonodd fi, i iachau’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a cfaaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydddeb,

19 I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.

20 Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.

21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.

22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff?

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iacha di dy him: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yraa hefyd yn dy wlad dy hun.

24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymer¬adwy yn ei wlad ei hun.

25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir,

26 Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig Weddw.

27 A llawer o wcafaangleifion oe4d yn Israel yn arnser Elisfcus y proffwyda.ac ni lanhawyd yr un ononynt, OJnd Naaman y Syriad.

28 A’r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint,

29 Ac a godasant i fyny, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.

30 Ond efe, gan fyned trwy eu cano) hwynt, a aeth ymaith,

31 Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu ,,dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth.

32 A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod.

33 Ac yn y synagog yr .oedd dyn & chanddo ysbryd cythraul aflan, ac efe a waeddodd â llef uchel,

34 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.

35 A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddy¬wedyd, Distawa, a dos allan ohono. A’r cythraul, wedi ei daflu ef i’r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.  ;

36 A daeth braw arnynt oll: a