Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/964

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ef, ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau.

16 Ac yr oedd efe yn cilio o’r neillto yn y dineithwch, ac yn gweddïo.

17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno,’"y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt.

18 Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef.

19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu.

20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.

21 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedydf cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig?;

22 A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddy¬wedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych?

23 Pa un hawsaf, ai dywedyd, Madd-euwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?

24 Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r partys,), Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ.

25 Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.

26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.

27 II Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddy¬wedodd wrtho, Dilyn fi.

28 Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a’i dilynodd ef.

29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd.

30 Eithr eu hysgrifenyddion a’u Pharis¬eaid hwynt a furmurasant yn erbyn e?» ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid?

31 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion.

32 Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifcirwch.

33 A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion loan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti ynbwyta;ac yn yfed?

34 Yntau a ddywedodd- wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt?

35 Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.

36 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chytuna a’r hen.

37 Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin new¬ydd a ddryllia’r costrelau, ac efe a red allan, a’r costrelau a gollir.

38 Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a’r ddau a gedwir.

39 Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.


PENNOD 6