Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/965

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

1 A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy’r yd: a’i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a’u bwytasant, gwedi eu rhwbio a’u dwylo.

2 A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthin yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau?

3 A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef;

4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig?

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.

6 A bu hefyd ar Saboth arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau wedi gwywo.

7 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a’i gwyliasant ef, a iachai efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.

8 Eithr efe a wybu eu meddyliau. hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a’r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.

9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?

10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu.

12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned phono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddib Duw.

13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;

14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr.) ac Andreas ei frawd; Iago, ac loan; Philip, a Bartholomeus;

15 Mathew, a Thomas; Iago mab Alffieus, a Simon a elwir Selotes;

16 Jwdas brawd Iago, a Jwdas IscariotJ yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.

17 Ac efe a aeth i wacred gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd mor Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau,

18 A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd.

19 A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono aUan, ac yn iacháu pawb.

20 Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eieh byd y tlodion: canys eidduch chwi yw teyrnas Dduw.

21 Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch.

22 Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn.

23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi.

24 Eithr gwae chwi’r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch.

25 Gwae chwi’r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.

26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi.

27 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casant:

28 Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant.

29 Ac i’r hwn a’th darawo ar