Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/966

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochi, na wahardd dy bais hefyd.

30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot, na chais cilchwyl.

31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.

32 Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u car hwythau.

33 Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.

34 Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobcithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.

35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: eanys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg.

36 Byddwch gan hynny drugaroglon, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.

37 Ac na femwch, ac ni’ch bernir: na chondemniwch, ac ni’ch condemnir; maddeuwch, a maddeuir i chwithau:

38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich myn-wes: canys a’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.

39 Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: a ddichon y dall dywyso’r dall? oai syrthiant ill dau yn y clawdd?

40 Nid yw’r disgybl uwchlaw ei athro; eithr pob un perffailh a fydd fel ei athro.

41 A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

42 Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, â thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.

43 Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn. ffrwyth da.

44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin.

45 Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, & ddrygionus drysor ei galoo, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galoti y mae ei enau yn llefaru.

46 Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneulhur yr hyn yr wyf yn ôl ddywedyd?

47 Pwy bynnag a ddêl ataf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a’u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb:

48 Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llifddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.

49 Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dy ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llifddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.


PENNOD 7

1 A wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl, efe a aethi mewn i Gapernaum.

2 A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw.

3 A phan glybu efe son am yr Iesu, efe a ddanfonodd atto henur-