Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/969

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6 A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, .am nad oedd iddo wlybwr.

7 A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a’r drain a gyd-dyfasant, ac a’i tagasant ef.

8 A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd a chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.

9 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd. Pa ddameg oedd hon?

10 Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na-ddeallant.

11 A dyma’r ddameg: Yr had yw gair Duw.

12 A’r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw’r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y inae’r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig.

13 A’r rhai ar y graig, yw’r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.

14 A’r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw’r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, J golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.

15 A’r hwn ar y tir da, yw’r rhai hyn, y rhai a chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando’r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.

16 Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi a llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo’r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.

17 Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a’r nis gwybyddir, ac na ddaw i’r golau.

18 Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwybynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae’n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.

19 Daeth ato hefyd ei fam a’i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf.

20 A mynegwyd iddo, gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.

21 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a’m brodyr i yw’r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.

22 A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a’i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt. Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn. A hwy a gychwynasant.

23 Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.

24 A twy a aethant ato, ac a’i denroes- ant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?

26 A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o’r tu arall, ar gyfer Galilea.

27 Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyf-arfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.

28 Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolef-ain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu. Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech.

29 (Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym a chadwynau, ac a llyffetheiriau; ac wedi dryllio’r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch.)

30 A’r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddy¬wedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef.