Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/970

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

31 A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder.

32 Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt-hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.

33 A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn, ac a foddwyd.

34 A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.

35 A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o’r hwn yr aethai’r s. me 8, 9 cythreiriiaid allan, yn ei ddillad, a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant .;

36 A’r rhai a welseat, a fynegasant hefyd iddynt "pa fodd yr iachasid y cythreulig.

37 A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i’r llong, a ddychwelodd.

38 A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd amo gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd,

39 Dychwel i’th dŷ, a dangos faint .’o bethau a wnaeth Duw i ,fi. Ac efe a aetti, dan bregethu trwy gwbl-o’r ddinas, faint a wnaethai’r Iesu iddo.

40 A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o’r bobl ef: canys1 yr oeddynt ofl yn disgwyl amdano ef.

41 Ac wele, daeth gŵr a’i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog; ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dy ef:

42 Oherwydd yr oedd iddo ferch unig-anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a’i gwasgent ef.

43 A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei hoB fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiachau,

44 A ddaeth o’r tu cefn, ac a gyfryrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.

45 A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyrfyrddoddami? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y mae’r bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyfEyrddodd a mi?

46 A’r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd a mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof.

47 A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngwydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd. .

48 Yntau a ddywedodd wrthi, Cymer gysur, ferch; dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.

49 Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dy llywodraethwr y synagog, gaa:ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo’r Athro.

50 A’r Iesu pan glybu hyn, a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna; cred yn unig, a hi a iacheir.

51 Ac wedi ei fyned efi’r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Pedr,:ac Iago, ac loan, a thad yr eneth a’i mam.

52 Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan amdani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, eithr cysgu y ma’e.

53 A hwy a’i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi.

54 Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan, ac a’i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod.

55 A’i hysbryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi.

56 A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchmynnodd iddynt, na ddywed-enl i neb y peth a wnaethid.


PENNOD 9