1 A efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau.
2 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i breg¬ethu teyrnas Dduw, ac i iachau’r rhai cleifion.
3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i’r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un.
4 Ac i ba dy bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.
5 A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt. -1
6 Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethaHt trwy’r trefis gan teegethu’r efengyl, a iacháu ym mhob lle.
7 A Herod y tetrarch a glybu’r ewblott a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fad rhai yn dywedyd gyfodi loan o feirw;
8 A rhai eraill, ymddangos o Eleias;. a rhai eraill, mai proffwyd, un o’r rhai gynt, a atgyfodasai.
9 A Herod a ddywedodd, loan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yt oedd efe yn ceisio ei weled ef.;
10 A’r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent. Ae efe a’u cymerth hwynt, ac a aeth o’r neilitu, i le anghyfannedd yn perthyna i’r ddiaas a elwir Bethsaida.
11 A’r bobloedd pan wybuant, a’i dilynasant ef: ac efe a’u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiachau.
12 A’r dydd a ddechreuodd hwyrhaa; a’r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i’r trefi, ac i’r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.
13 Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum forth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu b\vyd i’r bobl hyn oll.
14 Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.
15 Ac felly y gwnaethant, a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.
16 Ac efe a gymerodd y pum. torth, a’r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i’r nef, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a’u rorrodd, ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl.
17 A hwynt-hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chytbdwyd a weddillasai iddynt o friwrwyil, ddeuddeg basgedaid. ,.’
18 Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gwedd" io ei hunaa, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddy¬wedyd, Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i?
19 Hwythau gan ateb a ddywedasanty loan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac-eraill, mai rhyw broffwyd o’r rhai gyat a-atgyfododd.
20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod ii A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist ,,Duw.
21 Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb;
22 Gan ddywedyd, Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydid atgyfodi.
23 Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei grees beunydd, a dilyned fi.
24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi.
25 Canys pa lesad i ddyn, er ennill yr holl fyd, a’i ddifetha’i hun, neu fod wedi ei golli?
26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r Tad, a’r angylion sanctaidd.
27 Eithr dywedaf i chwi yn wir,