2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllyii, megis yn y aef, felly ar y ddaear hefyd.
3 Dyro i ni o ddydd ddydd .ein barn beunyddioL
4 A ‘maddau i ni ein pechodau: eanys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn;
6 Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef:
7 Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae’r drws ‘ yn gaead, a’m plant gyda mi yn y gwely;? ni allaf godi a’u rhoddi i ti.
8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na’ ctiyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau.
9 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chsrii. Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.
10 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir.
11 Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? BC os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn?
12 Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo?
13 Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da I’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?
14 Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i’r cythraul fyned allan, i’r mudan lefaru: a’r bobloedd a ryfeddasant.
15 Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Trwy Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
16 Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o’r nef’.
17 Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teymas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddiiB; a- th yn arbyn t , a syrth.
18 Ac os Satan hefyd sydd, wedi yia-rannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas cf? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr Wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid.
19 Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.
20 Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi.
21 Pan fyddo un cryf arfog yn eadw-ei neuadd, y mae’r hyn sydd ganddo mewn heddwch:
22 Ondpanddeluncryfachnagefatfto, a’i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn yia-ddiried, ac a ran ei anrhaith ef.
23 Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.
24 Pan el yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed. Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan
25 A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu.
26 Yna yr â efe, ac y cyraer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag efei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na’i ddechreuad.
27 A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug di, a’r bronnau a sugnaist.
28 Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.
29 Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd