Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/976

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y prorfwyd:

30 Canys fel y bu Jonah yn arwydd; i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon.

31 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.

32 Gwyr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.

33 Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.

34 Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorif hefyd fydd tywyll.

35 Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.

36 Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll a’i llew-yrch yn dŷ oleuo di.

37 Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta.

38 A’r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio.

39 A’r Arglwydd a ddywedodd witho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.

40 O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd?

41 Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lan i chwi.

42 Eithr gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.

43 Gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych yn caru’r prif gadeiriau yn y syna-gogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.

44 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariheaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.

45 Ac un o’r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd.

46 Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion a beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd a’r beichiau ag un o’ch bysedd.

47 Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, a’ch tadau chwi a’u lladdodd hwynt.

48 Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau; canys hwynt-hwy yn wir a’u lladdasani hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.

49 Am hynny hefyd y dywedodd doeth¬ineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant:

50 Fel y gofynner i’r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd;

51 O waed Abel hyd waed Sachareias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r deml; diau meddaf i chwi, Gofynnir ef i’( genhedlaeth hon.

52 Gwae chwychwi, y cyfreithwyr I canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.

53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn dacr iawn arno, a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau;

54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hclu rhyw beth o’l ben ef, i gael achwyn arno.

PENNOD 12