Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/977

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

1 YN y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Pharis¬eaid, yr hwn yw rhagrith.

2 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir.

3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.

4 Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur.

5 Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.

6 Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw:

7 Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to.

8 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a’m haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw.

9 A’r hwn a’m gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw.

10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddcuir iddo: eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.

11 A phan y’ch dygant i’r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a’r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch:

12 Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddy¬wedyd.

13 A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu a myfi yr etifeddiaeth.

14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi?

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amldcr y pethau sydd ganddo.

16 Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda.

17 Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Bclh a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?

18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysgubonau, ac a adeiladaf rai mwy, ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da.

19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.

20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist?

21 Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.

22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddis¬gyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch.

23 Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad.

24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gcll nac ysgubor, ac y mae Duw yn cu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar?

25 A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?

26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill?

27 Ystyriwch y lili, pa fodd y m;icnt yn tyfu; nid ydynt yn llafuno, nac yn nyddu: ac yr wyfyn dywedyd i cliwi, n.t wisgwyd Solo-