mon yn ei holl ogtiiiuiit fel un o’r rhai hyn.
28 Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd?
29 Chwithau na cheisiwch beth a fwyl-aoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus.
30 Caays y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnocll chwi eisiau’r pethau hyn.
31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.
32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas.
33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, St rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.
34 Canys lle y mae eich trysor chwr, yno y bydd eich calon hefyd.
35 Bydded eich lwynau wedi eu hym" wregysu, a’ch canhwyllau wedl eu golau:
36 A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwet o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.
37 Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.
38 Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny.
39 A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.
41 A Phedr a ddywedodd wr&si, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd?
42 A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw’r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?
43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei argiwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly.
44 Yn wir meddaf i chwi, Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo.
45 Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod} a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi:
46 Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r anffyddloniaid.
47 A’r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratodd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a giirir St llawer ffonnod.
48 Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda’r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.
49 Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes?
50 Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef, ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner!
51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael:
52 Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.
53 Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a’r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.
54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd. Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorilewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.
55 A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres; ac fe fydd.
56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeafl wynepryd y ddaear a’r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?