Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/984

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn.

29 Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a’r profiwydi; gwrandawant arnynt hwy.

30 Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os a un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhant.

31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.


PENNOD 17

1 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy’r hwn y deuant!

2 Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a’i daflu i’r môr, nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn.

3 Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarha efe, maddau iddo.

4 Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi atat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddau iddo.

5 A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein flydd ni.

6 A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe bydd-ai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhai i chwi.

7 Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu’n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, DOS ac eistedd i lawr i fwyta?

8 Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Ariwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau?

9 Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied.

10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea.

12 A phan oedd efe yn myned t mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell:

13 A hwy a godasant eu llef, gan ddy¬wedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym.

14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddy¬wedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt.

15 Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iachau, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.

16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe.

17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw?

18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.

19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, ac dos ymaith: dy ifydd a’th iachaodd.

20 A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.

21 Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele cw: canys wele, teyriias Dduw, o’ch mewn chwi y mae.:

22 Ac efe a ddywedodd wrthy disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.

23 A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; heu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.

24 Canys megis y mae’r fellten a fellt-enna o’r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.

25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon.

26 Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.