Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/985

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

27 Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreit;a, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch; a daeth y dilyw, ac a’u difethodd hwynt oll.

28 Yr un modd hefyd ag y bu yn nydd¬iau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu,

29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodoin, y glawiodd tân a brwmstan o’r nef, ac a’u difethodd hwynt oll:

30 Tel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.

31 n y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i’w cymryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl.

32 Cofiwch wraig Lot.

33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i cyll, a’i bywha hi.

34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.

35 t)wy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.

36 t)au a fyddant yn y maes; y naill a gymea-ir, a’r llall a adewir.

37 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa le bynnag y byddo y corff) yno yr ymgasgl yr cry rod.


PENNOD 18

1 A efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio;

2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofhai Dduw, ac ni pharchai ddyn.

3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.

4 Ac efe nis gwnai dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn;

5 Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i.

6 A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyf iawn.

7 Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?

8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe flydd ar y ddaear?

9 Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:

10 Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo; un yn Pharisead, a’r llall yn bublican.

11 Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.

12 Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf.

13 A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur.

14 Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i’w dy wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall: canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir;- a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrcheffr.

15 A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt; a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy

16 Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt atoi, ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.: ,

17 Yn wir meddaf i chwi, Pwy’.bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid a efe i mewn iddi.

18 A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol?

19 A’r Iesu a ddywedodd wrtho,