Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/992

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

27 Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.

28 A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau.

29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;

30 Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

31 A’r Arglwydd a ddywedodd, Si¬mon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fêl gwenith:

32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr.

33 Ac efe a ddywedodd ‘wrtho, Ar¬glwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. ‘

34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yit dywedyd i ti, Pedr, Na chan y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yt adwaeni fi.

35 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim.

36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yrt awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered, a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.

37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi.

38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddy¬wedodd wrthynt, Digon yw.

39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef.

40 A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddi’wch nad eloch mewn profedigaeth.

41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,

42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.

43 Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.

44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddi’odd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.

45 A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;

46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.

47 Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa, a’r hwn a elwir Jwdas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef.

48 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai a chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?

49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni a chleddyf?

50 A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef. ‘

51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn, Ac efe a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef.

52 A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a’r’ henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, a chleddyfau ac a ffyn?

53 Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu’r tywyllwch.

54 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dy’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell.

55 Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt.

56 A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dâl sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef.

57 Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.

58 Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr