Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/991

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y dydd hwnnw nrnoch yn ddisymwth;

35 Canys efe a ddaw, fel magi, ic wartliaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wynch yr holl ddaear.

36 Gwyliwch gan hynny a gwedd’iwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddiunc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.

37 A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd.

38 A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.


PENNOD 32

1 A NESAODD gŵyl y feara, eroyw, yr i hon a elwir y pasg.

2 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent fif: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.::

3 A Satan a aeth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd -o rifedi’r deuddeg.

4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddi-ddanodd a’r archoffeiriaid a’r blaenoriaidi pa fodd y bradychai efe ef iddynt.

5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo.

6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynjt 30. absen y bobl.

7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg.

8 Ac efe a anfonodd Pedr ac loan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom.

9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa te y mynni baratoi ohonom?

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd a chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr el efe i mewn,

11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt. Pa le y mae’r Hety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion?

12 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno parat¬owch.

13 A hwy a aethant, at: a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant ypasg.

14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof.

16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytaf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.

17 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a Aoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennweh yn eich plith:

18 Canys yr ydwyf yn, dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw. ‘

19 Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i toriodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.

20 Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.

21 Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd.

22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef!

23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnai hynny.

24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.

26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.