Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/990

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:

4 Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i inewn yr holl fywyd a oedd ganddi.

5 Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd aril y deml, ei bod hi wedi ei harddu a meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,

6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw’r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a’r nis datodir.

7 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?

8 Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Cristj a’r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hoi hwynt.

9 A phan glywoch son am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: end ni ddaw y diwedd yn y man.

10 Yna y dywedodd efe . wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:

11 A daeargrynfau mawrion a fyddanit yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau, a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrioft a fydd o’r nef.

12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a’ch erlidiant, gafl eich traddodi i’r synagogau, ac i garch" arau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. ,r...

13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystr iolaeth. ..

14 Am hynny rhoddwch eich bryd at na ragfyfyrioeh beth a ateboch:

15 Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll. , .;

16 A chwi a fradychir, ie, gan rieni) a brodyr, a cheraint, a chyfeillioa., ac i r-ai ohonoch y parant farwolaeth. . ,. .

17 A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.

18 Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi.

19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.

20 A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd-dra hi wedi nesau.

21 Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoanti i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei ebanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi.

22 Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd.

23 Eithr gwae’r rhai beichiogioa, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.

24 A hwy a syrthiant (rvy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner aaoser y Cenhedloedd. . ,

25 A bydd arwyddion yn yr rt.a’ttl,’a’t lleuad, a’r scr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr ,a’r tonnau yn rhuo;

26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a, ysgydwir. ‘

27 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfed mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr.

28 A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared . yn nesau.

29 Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau;

30 Pan ddeiliant hwy weithian, fSxwi. a welwch ac a wyddodtt ohonoch eich hnni fod yr haf yn agos.

31 Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.

32 Yn wir meddaf i chwi, Nid a’r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33 Y nef a’r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34 Ac edrychwch arnoch eich hun-ain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod