Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/989

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

19 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenydd¬ion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon.

20 A hwy a’i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i’w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.

21 A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddy¬wedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.

22 Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw?

23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi?

24 Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw.

26 Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant a son.

27 A rhai o’r Sadwceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo,

28 Gan ddywedyd, Athro, Moses a ysgrifcnnodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw ohono yn ddiblant, ar gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi bad i’w frawd.

29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddiblant.

30 A’r ail a gymerth y wraig, ac a fu farw yn ddiblant.

31 A’r trydydd a’i cymerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw.

32 Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd.

33 Yn yr atgyfodiad gan hynny/gwraig i bwy un ohonynt yw hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig.

34 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt. Plant y byd hwn sydd yn gwreica; ac yn gwra:

35 Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gad y byd hwnnw, a’r atgyfodiad oddi wrth y mcirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra:

36 Canys ni allant farw mwy: oblegid cyd-stad ydynt a’r angylion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr atgyfodiad.

37 Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.

38 Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.

39 Yna rhai o’r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist.

40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dun iddo ef.

41 Ac efe a ddywedodd- wrthynt, Pa fodd y maent yrr dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd?

42 Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, .

43 Hyd oni osodwyf dy elytiion’. yn droedfainc i’th draed di. ,:

44 Y mae Dafydd gan hynny yn ei aSur ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?

45 Ac a’r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

46 Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddiottj y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd;

47 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farri fwy.


PENNOD 2

1 AC wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu Ax y rhai goludog yn bwrw eu rhoddiori i’r drysorfa.

2 Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.

3 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddafi Chwi, fwrw o’r wraig