yr Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.
39 A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddy wedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion.
40 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn yfan.
41 Jf Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,
42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
43 Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth,
44 Ac a’th wnant yn gydwastad a’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45 Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;
46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn -—..—.... 6».i ucm a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.
47 Ac yr oedd efe beunydd yn athraw- laethu yn y deml. A’r archoffeiriaid, a’r .ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;
48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: anys yr holl hnhl "prM "- ~i—— _..-,o. . ufii y uywedwch wrtho. Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho.
PENNOD 20
1 A DIGWYDDODD ar un o’r dyddiau tl hynny, ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn pregethu’r efengyl, ddyfod amo yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda’r henuriaid,
2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?
3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi:
4 Bedydd loan, ai o’r nefyr ydoedd, ai o ddynion?
5 Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn:, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?
6 Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod loan yn broffwyd.
7 A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le.
8 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a’i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.
10 Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a’i {iurasant ef, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw.
11 Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw.
12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a’i bwriasant ef allan.
13 Yna y dywedodd arglwydd y win¬llan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.
14 Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant a’i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo’r etifeddiaeth yn eiddom ni.
15 A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?
16 Efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw.
17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongi?
18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mai ef.