Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/997

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

YR EFENGYL YN OL SANT IOAN.

PENNOD 1

1:1 Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair.

1:2 Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw.

1:3 Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd.

1:4 Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion.

1:5 A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.

1:6 Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan.

1:7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef.

1:8 Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.

1:9 Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.

1:10 Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef.

1:11 At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.

1:12 Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef.

1:13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.

1:14 A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a driogodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.

1:15 Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod at fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i.

1:16 Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras.

1:17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.

1:18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.

1:19 A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerusalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti?

1:20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw’r Crist.

1:21 A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai’r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage.

1:22 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun?

1:23 Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Eseias y proffwyd.

1:24 A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid.

1:25 A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na’r Crist, nac Eleias, na’r proffwyd?

1:26 Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi:

1:27 Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o’m blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid.

1:28 Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.

1:29 Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.

1:30 Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i.

1:31 Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr