Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/996

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd < dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.

22 A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd:

23 A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddy wedent ei fod ef yn fyw. ‘

24 A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsarit felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwel-sant.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proft’wydi!

26 Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant?

27 A chan ddechrau ar Moses, a’r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun.

28 Ac yr oeddynt yn nesau i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach.

29 A hwy a’i cymellasant ef, gan ddy¬wedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt.

30 A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt.

31 A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt.

32 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan a ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau?

33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r’ sawl oedd gyda hwynt,

34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyf— ododd yn wir, ac a ymddangosodd i i Simon. ,

35 A hwythau a adroddasant y pethau ‘ a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.

36 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.

37 Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a - dybiasant weled ohonynt ysbryd. 4

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?

39 Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwel~ wch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.

40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.

41 Ac a hwy cto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddup bwyd? A

42 A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.

43 Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt.

44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyina’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi.

45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau.

46 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:

47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerw¬salem.

48 Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.

49 Ac wele, yr ydwyf fi yn anfoni addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi a nerth o’r uchelder.

50 Ac cfc a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt.

51 Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddt wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef.

52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: -"‘ .

53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. . Amen.