Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nevern; John Roberts, Llangwm; Simon Llwyd; John Jones, Edeyrn; Evan Richardson; John Rees, Casnewydd; John Thomas, Aberteifi; Griffiths, Lantwd; Morgan Howell; Theophilus Jones; Thomas Harris; Hopkin Bevan, &c., &c. Caiffy rliai hyn, yn nghyd a darluniau o leoedd dyddorol cysylltiedig â hwynt, addurno y gwaith; a phan ei gorphenir, dysgwyliwn y byddwn wedi llwyddo i osod yn nwylaw ein darllenwyr gasgliad o ddarluniau o werth a dyddordeb anmhrisiadwy.

Yr ydym yn rhwymedig i amryw gyfeillion am lawer o gymhorth gwerthfawr yn nygiad allan y gwaith hwn. Nis gallwn gydnabod pawb ag yr ydym mewn dyled iddynt, ond rhaid i ni nodi Mr. Daniel Davies, Ton, Cwm Rhondda; yn nghyd a'r Parchn. John Davies, Pandy; E. Meyler, Hwlffordd; J. E. Davies, M.A., Llundain; Owen Jones, B.A., Llansantffraid; E. WilHams, M.A., Trefecca; W. Williams, Abertawe; J. Cynddylan Jones, D.D., Caerdydd; T. Rees, D.D., Cefn; W. Evans, M.A., Pembroke Dock; Hugh WiHiams, M.A., Bala; a Joseph Evans, Dinbych. Derbynied y rhai hyn ein diolchgarwch goreu. Dymunem hefyd gydnabod caredigrwydd Cymdeithasfa y Deheudir, yn caniatau i ni fenthyca y llawysgrifau gwerthfawr sydd yn nghadw yn llyfrgell Trefecca; oni bai am y caniatad hwn, ni buasem yn alluog i gyflwyno i'r cyhoedd y rhan fwyaf dyddorol a gwerthfawr o'r gyfrol hon.

Gobeithiwn y bydd i ni, trwy gyfrwng y llyfr hwn, fod o ryw wasanaeth i'r Cyfundeb a gerir genym mor fawr, ac y bendithir ein llafur i fod o wasanaeth i achos crefydd.

JOHN MORGAN JONES, Caerdydd.

WILLIAM MORGAN, Pant.

Gorph 15, 1895