Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

YR oedd dwyn allan lyfr darluniedig ar hanes Methodistiaeth Cymru yn amcan genym er ys blynyddoedd, a buom am amser maith yn casglu defnyddiau i'r pwrpas. Yn awr, dyma y Gyfrol Gyntaf allan o'r wasg. Fel awduron yn gyffredin, yr ydym wedi medru perswadio ein hunain fod angen a galwad am lyfr o'r fath, ac yr ydym yn credu na wnaethom gamgymeriad. Teimlir yn bresenol fwy o ddyddordeb nag erioed yn hanes dechreuad a chynydd Methodistiaeth; dangosir awyddfryd cryf am adnabod cymeriad ei Sylfaenwyr, a gwybod pob peth a ellir wybod am danynt, ac am eu gwaith. Cryfhawyd y dyddordeb yma yn ddirfawr gan y modd llwyddianus y dathlwyd Trydydd Jiwbili y Cyfundeb; a chredwn fod y teimlad a gynyrchwyd yn un naturiol ac iachus, ac yn teilyngu meithriniad.

Wrth gyflwyno Y Tadau Methodistaidd i sylw y cyhoedd, nid ydym mewn un modd yn ddiystyr o'r llyfrau gwerthfawr ar hanes y Cyfundeb sydd genym yn barod, yn arbenig Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool; a Welsh Calvinistic Methodism, gan y Parch. William Williams, Abertawe. Pan yr ymgymerodd Mr. Hughes a'i waith, yr oedd ein hanes, gan mwyaf, yn aros mewn traddodiad, ac mewn perygl o fyned yn hollol ar ddifancoll. Iddo ef, yn anad neb, yr ydym yn ddyledus am gasglu y traddodiadau gwasgaredig yn nghyd, a'u dwyn i ffurf hanesyddol. Eithr oedd toraeth o ffeithiau cysylltiedig â dechreuad Methodistiaeth nas medrodd ef ddod o hyd iddynt, yn guddiedig mewn llawysgrifau gwerthfawr, a llyfrau Saesnig henafol a phrin, ond yn benaf yn gorwedd yn Nhrefecca, heb fod neb wedi eu hastudio na'u darllen. Ymroddasom gyda phob dyfalwch i gasglu y rhai hyn. Buom yn chwilio yr Amgueddfa Frytanaidd yn Llundain, a gwahanol lyfrgelloedd, cyhoedd a phreifat, er ceisio dyfod o hyd i bob ffaith o bwys. Ac yn benaf, darllenasom ddydd-lyfr Howell Harris, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, trwyddo; yr hyn, mor bell ag y gallwn gasglu, na wnaed gan neb o'n blaen. Trwy hyn, credwn ein bod wedi llwyddo i daflu goleuni newydd ar ddechreuad y Cyfundeb, ac ar hanes a chymeriad y rhai, dan fendith Duw, a fuont yn offerynol i'w ddwyn i fod.

Dichon mai nodwedd fwyaf amlwg a gwahaniaethol Y Tadau Methodistaidd yw ei fod yn llyfr darluniedig. Yr ydym yn gosod ynddo bob darlun sydd ar glawr a chadw o enwogion Methodistaidd; ac yr ydym wedi llwyddo tu hwnt i'n dysgwyliad i ddarganfod darluniau nas gwyddem eu bod mewn bodolaeth. Yn mhlith eraill, daethom o hyd i ddarlun anhysbys o Daniel Rowland, copi o ba un a geir yn nechreu y gyfrol hon. Cawsom ef yn llyfrgell yr Amgueddfa Frytanaidd. Heblaw y rhai a geir yn y Gyfrol Gyntaf, y mae genym ddarluniau o'r enwogion canlynol: Nathaniel Rowland ; Griffiths,