a Llanheiddel. Pa un ai ar y daith hon, ynte taith arall a gymerwyd ganddo trwy Fynwy yn Hydref yr un flwyddyn, y cawsant eu sefydlu, nis gwyddom. Derbyniwyd Howell Harris fel cenad o'r nefoedd gan y gweinidogion Ymneillduol a bregethent athrawiaethau Calfinaidd; a bu ei ddyfodiad fel bywyd o farw i'r achosion gweiniaid oedd dan eu gofal Yn bur fuan yr ydym yn cael Edmund Jones yn adeiladu addoldy yn Mhontypŵl, a lliosogodd yr eglwysi Ymneillduol yn yr holl gwmpasoedd yn ddirfawr. Ond am y gweinidogion a dueddent at Arminiaeth, gwnaent hwy yr oll a fedrent i rwystro y diwygiad, ac i wrthwynebu Harris, a braidd nad y dosparth yma oedd yn y mwyafrif ar y pryd. Eu cri yn ei erbyn oedd na chawsai ei ordeinio, ac felly nad oedd hawl ganddo i bregethu. Rhoddai yr Ymneillduwyr ffurfiol hyn gymaint o bwys ar ordeiniad ag a wnelai offeiriaid Eglwys Loegr. "Ni fedraf lai na sylwi," meddai Edmund Jones, mewn llythyr at Howell Harris, "mai ein dynion goreu sydd yn ffafriol i chwi, ac mai y rhai sychion, amddifad o brofiad, neu Arminiaid, sydd yn eich erbyn; o leiaf, hwy sydd yn chwerw." Dywed yn mhellach fod y gweinidogion efengylaidd yn edrych arno fel un wedi cael ei alw i'r weinidogaeth, er nad yn y ffordd arferol. Harris wedi ei alw? Y mae mor sicr ei fod a darfod i'r apostolion gael eu galw gan y Gwaredwr; profid hyny yn ddiymwad gan yr arddeliad oedd yn cydfyned a'i bregethu, a chan y canoedd a gawsent eu dychwelyd trwyddo. Os gallai Paul droi ar y Corinthiaid crediniol, gan ddweyd: "Sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd," gallai Harris yntau gyfeirio at ganoedd ar hyd a lled y wlad a gawsant eu hachub trwy ei offerynoliaeth, ac a oeddynt yn dystion byw o'i ddwyfol anfoniad. Yr oedd rhesymau personol gan y gweinidogion Arminaidd dros wrthwynebu y Diwygiwr. Yn un peth, yr athrawiaethau Calfinaidd a bregethid ganddo, a hyny yn y modd mwyaf difloesgni; dyn yn golledigaeth ynddo ei hunan, y galon yn ddrwg diobaith, holl ymdrechion dyn i ddod i fynu a gofynion deddf gyfiawn y nefoedd yn gwbl ofer, ufudd-dod ac iawn yr Arglwydd Iesu yn unig sail cadwedigaeth, a'r clod yn gyfangwbl yn perthyn i ras penarglwyddiaethol Duw, dyma y gwirioneddau a gyhoeddai. Gellid symio ei gredo mewn cymal a geir yn un o'i weddïau: "Uffern wyf fi; ond nefoedd wyt ti."
Yn erbyn yr athrawiaeth hon gwingai yr Arminiaid anefengylaidd yn enbyd. Heblaw hyn, taranai yn ofnadwy yn erbyn yr oerni, y cysgadrwydd, a'r bydolrwydd, oedd wedi gorddiwes yr eglwysi Ymneillduol, ynghyd a dull clauar a deddfol y gweinidogion o bregethu. Fflangellai hwynt yn y modd mwyaf diarbed, a galwai arnynt yn enw yr Arglwydd i ddihuno, onide y syrthient dan y farn. Tybiai Edmund Jones ei fod yn tueddu i fod yn rhy lym. "Da genyf," meddai, " ddarfod i Mr. Whitefield ddwyn tystiolaeth onest a hyf yn erbyn clauarineb a bydolrwydd yr YmneiIIduwyr, ynghyd ag ysgafnder a bywyd penrhydd amryw o'u gweinidogion. Yr oedd yr angen mwyaf am wneyd hyn; ond gwna Mr. Whitefield ef mewn modd cymhedrol, eithr gonest; a phe y gwnaech chwithau hyn, anwyl frawd, gyda llai o nwyd a chyffröad yspryd, gan barchu eu personau, gallasech effeithio llawer o dda. Ond fel y mae, ofnaf na wnaed fawr da. Ar yr un pryd, gwelaf mai i ni y perthyn y bai mwyaf." Nid awn i geisio penderfynu a ydoedd Edmund Jones yn, barnu yn gywir; sicr yw fod Harris yn wresog ei yspryd, ac yn dra llym yn ei ddynoethiad o ddrygau, yn arbenig drygau cysylltiedig a'r cysegr; ond gwelir yn eglur ddarfod i'w hyfdra gynyrchu gwrthwynebiad iddo yn mysg y gweinidogion Ymneillduol o syniadau anefengylaidd. Pa fodd bynag, yr oedd llaw yr Arglwydd gydag ef, ac nid ofnai yntau beth a wnelai dyn iddo.
Pregethwr Ymneillduol arall a wahoddodd Mr. Harris i'w ardal oedd y Parch. David Williams, gweinidog yr eglwysi Presbyteraidd yn Watford a Chaerdydd. Dywed yn ei Iythyr at Harris ei fod wedi ei gyhoeddi i fod yn mlwyf Eglwysilan am ddau ddiwrnod, sef dydd Mercher gwedi y Sulgwyn yn Bwlchycwm, a'r dydd lau dilynol yn Maesdiofal, ac y disgwylid torf fawr i wrando. Aeth yntau yn ffyddlawn i'w gyhoeddiad. Ymddengys iddo fyned trwy Fynwy, oblegyd addawa Mr. Williams ei gyfarfod y nos Fawrth flaenorol yn Bedwellty, a'i ddwyn i'w dŷ ei hun i letya. Nid ydym yn gwybod a ddarfu iddo bregethu mewn lleoedd eraill yn Morganwg y tro hwn; y tebygolrwydd yw iddo wneyd; prin y gallwn feddwl iddo deithio yr holl ftordd yma o Dalgarth er mwyn gwaith dau ddiwrnod. Yr oedd yr un dylanwad yn cydfyned a'i weinidogaeth ag yn Mynwy. Ac nid rhywbeth amserol, yn cilio fel cysgod,