oedd yr effaith; yn hytrach, tebygai i'r surdoes yn y blawd, yn cyfnewid ansawdd yr holl does. Mewn llythyr a anfonodd y Parch. D. Williams i Drefecca ychydig ar ol hyn dywedir: "Bu gwasanaeth y ddau ddiwrnod gyda ni yn rhyfeddol o lwyddianus. Y mae yr eglwysydd a'r cyfarfodydd yn orlawn: y mae tori y Sabbath yn myned lawr, edrychir arno fel peth atgas; a gwrthdystir yn erbyn tyngu ac ymladd ceiliogod. Ond nid ydych yn dychymygu fod y diafol yn fud ac yn llonydd. Na, y mae yn llefaru ac yn gweithredu; ond tybiaf fod mwy yn ei erbyn nac sydd o'i blaid yn y rhan hon o'r wlad. Y mae eich cyfeillion yn lliosocach na'ch gwrthwynebwyr. Pregethir yn eich erbyn mewn rhai manau; ond try er gwaradwydd i'r rhai sydd yn ceisio ei wneyd." Yn nes yn mlaen, dymuna yr ysgrifenydd iddo adferiad buan i iechyd, yr hyn a ddengys fod ei lafur dirfawr mewn pregethu a theithio diorphwys yn dechreu effeithio ar ei gyfansoddiad, er cadarned ydoedd; dymuna yn daer arno ymweled a'r rhan hono o'r wlad mor ddioedi ag sydd bosibl; "ni wna unrhyw wahaniaeth," meddai, "pe bai yn amser cynhauaf, gan mor awyddus yw y bobl i wrando arnoch;" a dywed yn mhellach fod ganddo nifer o leoedd yn crefu am ei wasanaeth. Dyddiad y llythyr hwn yw Mehefin, 1738. Cawn Mr. Williams yn ysgrifenu yn mhen dau ddiwrnod drachefn i wasgu arno am ail gyhoeddiad, gan ddweyd y byddai yr wythnos olaf yn y mis hwnw, neu yr wythnos gyntaf yn Gorphenaf, yn gyfleus iawn. "Y lleoedd mewn golwg genyf," meddai, "heblaw y rhai a gawsant eu siomi, ydynt Llanedeyrn (myned yno o St. Nicholas), yna Machen neu Maesaleg, ac wedi hyny i'n plwyf ni (Eglwysilan), yn y lle y tybir ei fod fwyaf cyfleus. . . . Dylaswn ddweyd y disgwylir chwi o'n plwyf ni i Gelligaer. Y mae y cuwrad, yr hwn a alwodd yn ein tŷ ni y nos o'r blaen, yn gwneyd ei oreu drosoch, er efallai mai y tu ol i'r llen, gan ei fod ar gael ei urddo yn offeiriad." Diweddir y llythyr gyda dweyd nad rhaid iddo fod mor anmharod i gyfeillachu ag Ymneillduwyr yn y rhanau hyny o'r wlad ag mewn manau eraill, gan fod rhagfarn yn diflanu yn gyflym. Y lleoedd y cyfeirir atynt fel wedi cael ei siomi yn eu disgwyliad am Howell Harris oeddynt Aberdâr, Llanwono, Llantrisant, a St. Nicholas, yn Mro Morganwg. Yn y manau hyn ymgynullasai torfeydd ynghyd, ac yr oedd eu siomiant yn ddirfawr pan y deallasant fod selni wedi rhwystro'r pregethwr.
Tua'r un amser ag yr ymwelodd Mr. Harris gyntaf a chymydogaeth Caerphili, bu yn pregethu yn y rhan orllewinol o Forganwg; ac y mae yn sicr mai gwahoddiad taer oddiwrth y Parch. Henry Davies, Bryngwrach, a'i cymhellasai. Yr oedd Henry Davies yn weinidog ar gynulleidfa o Ymneillduwyr yn Nyffryn Nedd; bu ar delerau cyfeillgar a'r Methodistiaid trwy ei oes; cawn ef yn bresenol yn y Gymdeithasfa. gyntaf, yn Watford, ac mewn amryw Gymdeithasfaoedd eraill, a diau ei fod yn ŵr oedd yn ofni Duw. Gwedi ei farw aeth ei gynulleidfa. yn Undodiaid. Ymddengys ddarfod i selni Howell Harris ei rwystro i fyned i'r parthau hyny yn mis Mehefin, fel yr arfaethasai, ac i filoedd gael ei siomi mewn canlyniad. Mewn llythyr, dyddiedig Gorph. 28, 1738, dywed y Parch. Henry Davies: "Y mae y gŵr difrifol, zelog, a duwiol hwnw, Mr. William Thomas, offeiriad Llanilltyd-ger-Nedd, yn dra awyddus am eich gweled, a chael eich cymdeithas. Aethai yn un swydd ir Fonachlog i'ch gwrando, ond cafodd ei siomi, a miloedd heblaw efe. Ceryddwyd ef gan offeiriad chwerw sydd yn byw yn Nghastellnedd. Y mae yr offeiriaid yn rhanedig y naill yn erbyn y llall yn y cymydogaethau hyn. Y mae cadben ymrysonfeydd ceiliogod, yr hwn a'ch clywodd yn y Bettws, yn addaw peidio dilyn y chwareu annuwiol hwnw mwy; a darfu i un arall, yn agos i lan y môr, yr hwn oedd yn arweinydd yn mhob annuwioldeb, dori ymaith benau ei holl geiliogod ar ol bod yn gwrando arnoch. Gwelais ef y Sul diweddaf, ac ymddangosai fel gwrandawr difrifol. Gwahoddodd fi i'w Duw yn unig bia'r clod. credu ddarfod i'r diafol golli rhai milwyr medrus, y rhai ddarfu ymrestru i fod yn filwyr ffyddlawn dan y Cadben mawr, ein Harglwydd Iesu. O gweddïwch am ragor o fagnelau i ddryllio teyrnas Satan." Tua yr amser hwn hefyd derbyniodd Mr. Harris gyffelyb wahoddiadau oddiwrth y Parch. John Davies, gweinidog Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, ac oddiwrth y Parch. Vavasour Griffiths, o Sir Faesyfed.
Methasom ddod o hyd i ddydd-lyfr y Diwygiwr am y rhan olaf o'r flwyddyn 1738, ond y mae lle cryf i gasglu ddarfod iddo, yn unol a gwahodd y gweinidogion Ymneillduol yr ydym wedi cyfeirio atynt,