chwech mis. Tua mis yn ol cynygiodd ei hun drachefn, ond trowyd ef heibio. Er hyn y mae yn benderfynol i fyned yn y blaen gyda'i waith. Er ys tair blynedd y mae wedi llefaru braidd ddwy waith bron bob dydd, am dair neu bedair awr or bron, nid yn awdurdodol fel gweinidog, ond fel person preifat yn cynghori ei frodyr. Y mae wedi teithio saith sir, gan fyned i wylnosau, &c., er troi y bobl oddiwrth wagedd a chelwydd. Llawer o bobl y tafarndai, ynghyd a'r ffidleriaid, a'r telynwyr, a achwynant arno am spwylo eu galwedigaeth. Gwnaed ef yn wrthrych lliaws o bregethau; bygythiwyd ef ag erlyniad cyfreithiol, ac anfonwyd cwnstebli i'w ddal. Ond y mae Duw wedi ei fendithio a dewrder anhyblyg; ac y mae yn parhau i fyned yn ei flaen o fuddugoliaeth i fuddugoliaeth. Y mae o'r yspryd mwyaf catholig, yn caru pawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist; ac felly gelwir ef gan benboethiaid yn Ddisenter. Geilw llawer ef yn dad ysprydol, a rhoddent. yr wyf yn credu, eu bywydau i lawr drosto. Llefara fynychaf mewn maes, bryd arall mewn tŷ, oddiar fur, bwrdd, neu rywbeth arall. Y mae wedi sefydlu tua. deg-ar-hugain o seiadau, a pharha cylch ei ddefnyddioldeb i ymeangu. Y mae yn llawn o ffydd, ac o'r Yspryd Glan."
—————————————
ATHROFA'R IARLLES HUNTINGTON, FEL Y MAE YN BRESENOL.
—————————————
Yr ydym wedi difynu mor helaeth o'r dydd-lyfr, am y ceir ynddo gryn lawer o hanes Howell Harris, ac hefyd am y dengys deimlad cynes Whitefield tuag ato. Teimlai Harris lawn mor gynes ato yntau. Dywed ei fod yn ei garu am ei fod ef yn caru yr Arglwydd Iesu. Ymddengys ddarfod i Howell Harris bregethu yn Nghaerdydd yn ogystal, a dywed iddo wneyd gyda gradd o awdurdod. Dydd Gwener, y maent yn gadael Caerdydd, ac yn cyrhaedd Casnewydd. Cafodd Whitefield bwlpud yr eglwys yno; daeth llu o Bontypŵl a manau eraill i'w wrando; a chyfrifid y gynulleidfa yn fil o bobl. Aeth Howell Harris gydag ef i Fryste; treuliodd yno ac yn Bath, lle y gwasanaethai Griffith Jones ar y pryd, o ddydd Sadwrn hyd i dydd Mercher, gan bregethu i'r glowyr ar y maes, ac yn y seiadau yn ogystal. Diau fod angerddolrwydd ei yspryd, a' tân Cymreig a fflamiai o'i fewn, yn synu y Saeson, ac yn dylanwadu yn fawr arnynt. Cyn dychwelyd, cyflwynodd Mr. Seward oriawr iddo, fel prawf o'i serch. Dydd Iau,