Mawrth 16, cawn ef yn llefaru yn Eglwysnewydd, tair milldir o Gaerdydd; dydd Gwener y mae yn Mhontypŵl, dydd Sadwrn yn Llanfihangel, yn yr un gymydogaeth; y Sul yn Mynyddislwyn; yn Maesaleg, ger Casnewydd, y Llun; yn Pentre Bach dydd Mawrth, yn St. Bride dydd Mercher, yn ol yn Nghaerdydd dydd lau, yn Ynysyngharad, ger Pontypridd, y Sadwrn, yn Parc Eglwysilan y Sul, yn Llanwono y Llun, Aberdâr dydd Mawrth, Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, dydd Mercher, a nos yr un dydd yn Faenor, yr ochr arall i Ferthyr, a dydd lau, Mawrth 30, y mae yn Cantref, wrth waelod Bannau Brycheiniog, o fewn taith diwrnod i'w gartref. Cyrhaeddodd Drefecca yn ddiau y dydd canlynol, wedi taith o rhwng tair wythnos a mis.
Eithr nid oedd gorphwys i was yr Arglwydd. Llai nag wythnos a gafodd yn ei gartref, oblegyd, Ebrill 5, yr ydym yn ei gael drachefn yn Brynbiga (Usk), yn Sir Fynwy, yn cyfarfod Whitefield ar ei ail ymweliad â Chymru. Gwrthodwyd yr eglwys iddynt yno; a phregethodd Whitefield oddiar fwrdd dan gysgod coeden fawr, a Harris ar ei ol yn Gymraeg. Dilynwyd hwy gan osgordd o tua haner cant o wŷr i Bontypŵl; cawsant yr eglwys yno; ond gan nad oedd lle i'r lliaws a ymgynullasai yn yr adeilad, pregethasant drachefn ar y maes. Yn nghwmni tua deg-ar-hugain o wŷr ceffylau, aethant i'r Fenni; cyffelybai Whitefield hwy i Joshua a'i fyddin yn goresgyn gwlad Canaan. Cawsant gynulleidfa o tua dwy fil yn yr awyr agored, ac nid arbedasant y gwatwarwyr bonheddig wrth lefaru. Disgwyliasent gynhwrf yn y Fenni, ond ni feiddiodd neb agor ei enau i'w herbyn. Cawn hwy yn myned oddiyno i Cwm lau, at yr offeiriad duwiol, Mr. Jones; ond yr oedd y gynulleidfa yn rhy fawr i'r eglwys, a llefarasant yn y fynwent. Gwaith un dydd oedd hyn oll. Ebrill 6, cyrhaeddasant Gaerlleon-ar-Wysg, yn nghwmni tua thriugain o wŷr ceffylau, "yr hon dref," meddai Whitefield, "sydd yn enwog am fod deg-ar-hugain o frenhinoedd Prydeinig wedi eu claddu ynddi, a'i bod wedi cynyrchu tri o ferthyron ardderchog." Mewn maes yma yr oedd pwlpud wedi ei godi i Howell Harris pan yr ymwelasai a'r lle yn flaenorol; yn hwn y darfu i'r ddau bregethu yn awr; daethai miloedd i wrando, ond ni feiddiodd neb aflonyddu, er iddynt guro drwm a bloeddio pan y buasai Harris yma o'r blaen. Odfa ryfedd oedd hon, fel yr ymddengys. "Rhoddodd Duw i mi y fath gymorth anarferol," meddai Whitefield, "fel y cefais fy nghario yn mhell tu hwnt i mi fy hun." Ychwanega: "Gweddïais dros Howell Harris erbyn ei enw, fel yr wyf wedi gwneyd yn mhob lle y pregethais ynddo yn Nghymru. Na ato Duw i mi gywilyddio o herwydd fy Meistr na'i weision." Tebyg y cyfeiria at y ffaith fod Harris yn pregethu heb urddau. Priodola y Gloucester Journal, am Ebrill 24, 1739, fawredd y cynulleidfaoedd i serch personol at Mr. Whitefield, ac hefyd i'r athrawiaeth am yr enedigaeth newydd a bregethai. Prawf hyn mai ychydig o son oedd am ailenedigaeth yn mhwlpudau yr Eglwys. O Gaerlleon aethant i Trelech; y gareg farch, ger y gwest-dŷ, oedd eu pwlpud yno. Cawsant fynedfa i'r eglwys yn Nghaergwent, y dref Gymreig olaf iddynt ar y daith hon, a chawn hwy, Ebrill 9, yn cyrhaedd Caerloyw.
Yn y ddinas hon naceid yr eglwysi i Whitefield, y naill ar ol y llall, er mai dyma ei le genedigol; cymerodd yntau y maes, gyda Howell Harris wrth ei ochr, ac yr oedd eu cynulleidfaoedd yn fynych yn rhifo o dair i bedair mil. Fel hyn yr ysgrifena Whitefield: "Llefed y neb a fyno yn erbyn fy nghyndynrwydd, nis gallaf weled fy anwyl gydwladwyr a'm cydgristionogion yn mhob man yn suddo i ddinystr, o herwydd anwybodaeth ac angrhediniaeth, heb wneyd fy ngoreu i'w hargyhoeddi. Yr wyf yn galw ar y rhai sydd yn ceisio fy rhwystro i ddwyn yn mlaen reswm dros eu gwaith; rheswm nid yn unig a foddlona ddynion, ond Duw. Aelod o Eglwys Loegr ydwyf fi. Yr wyf yn dilyn yn glos ei herthyglau a'i homilïau; a phe y gwnelai fy ngwrthwynebwyr yr un peth, ni fyddai cymaint o Ymneillduwyr oddiwrthi. Ond y mae yn gyffredinol hysbys fod y wlad yn galaru oblegyd anwiredd yr offeiriaid. Yr ydym (ni yr offeiriaid) wedi pregethu a byw llawer o ddynion difrifol allan o'n cymundeb. Yr wyf wedi ymddiddan a nifer o oreuon y gwahanol enwadau, ac y mae llawer o honynt wedi tystio yn ddifrifol ddarfod iddynt adael yr Eglwys am na chaent yno fwyd i'w henaid. Arosasant yn ein mysg nes iddynt gael eu newynu allan." Geiriau ofnadwy o ddifrifol, ac yr ydym yn eu difynu am eu bod yn wir i'r llythyren gyda golwg ar Gymru. Darfu i'r Methodistiaid, a chorff y genedl gyda hwy, adael yr