Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIII.–HOWELL HARRIS (1746)

Taith Howell Harris yn Sir Forganwg–Gwrthwynebiad i'w athrawiaeth yn dechreu codi–Thomas Williams, y Groeswen, yn dychwelyd at y Methodistiaid —Cymdeithasfa y Glyn–Llythyr at Mr. Thomas Adams–Cymdeithasfa Glancothi–Y Cyfarfod Chwech—wythnosol–Howell Harris yn Llundain–Cymdeithasfa ystorms yn Watford–Ymosodiad y Morafiaid ar Gymru–Howell Harris yn Hwlffordd–Yr anghytundeb rhwng Rowland a Harris yn cychwyn yn Nghymdeithasfa Trefecca–Rowland a Harris yn ail–heddychu–Cymdeithasfa gyffrous yn Castell—nedd–Cymdeithasfa ddymunol yn Watford.

XIV.–HOWELL HARRIS (1747–48)

Gwaredigaeth hynod yn Llansantffraid–Amryw Cymdeithasfaoedd–Harris yn cyhuddo Williams, Pantycelyn, o bregethu yn ddeddfol–Dealltwriaeth a'r Wesleyaid–Howell Harris yn ymweled a Môn, Arfon, Dinbych, a Meirionydd–Llythyr cryf at y Parch. Edmund Jones—Taith i Orllewin Lloegr–Syr Watkin Williams Wynne yn erlid y Methodistiaid–Cymdeithasfa Llanbedr—Adroddiad am gasgliad Cymdeithasfa Caerfyrddin–Y myfyrwyr yn rhuthro i'r Gymdeithasfa–Howell Harris yn Sir Benfro–Dadl a dau weinidog Ymneillduol.

XV.–HOWELL HARRIS (1749–50)

Harris yn amddiffyn James Beaumont–Dyledswyddau y goruchwylwyr–Harris yn beio seiat y Groeswen am ordeinio brodyr i weinyddu yr ordinhadau–Ei syniad am athrofa–Taith i Sir Drefaldwyn–Ymweliad arall a Llangeitho–Ymheddychu a'r Parch. Price Davies—Taith arall trwy Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg– Parotoi at ymraniad–Harris yn ymosod ar yr offeiriaid–Pregeth nerthol yn y Groeswen–Howell Harris a Price, o'r Watford–Ffrwgwd parthed troi y goruchwylwyr allan yn yr Aberthyn–Cymdeithasfa Llanidloes–Dim yn bosibl bellach ond ymraniad.

XVI.–YR YMRANIAD

Syniadau athrawiaethol Howell Harris—"Ymddiddan rhwng Uniawngred a Chamsyniol"—Achosion i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn parthed athrawiaeth–Harris yn petruso cyn ymranu–Plaid Rowland yn cyfarfod yn Llantrisant, ac yn ymwrthod a Harris yntau yn cynal pwyllgor yn Llansamlet–Cymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yn St. Nicholas–Cymdeithasfa Llanfair–muallt–Llythyr Harris at Rowland–Harris yn Sir Benfro–Harris yn Ngogledd Cymru–Cymdeithasfa Llwynyberllan a Dyserth.

XVII.–HOWELL HARRIS–GWEDI YR YMRANIAD

Howell Harris yn gosod i lawr sylfaen yr adeilad newydd yn Nhrefccca–Ei afiechyd difrifol–Anerchiad pwysig yn y "Cynghor"— Anfon milwyr i'r fyddin– Harris yn gadben yn y milisia–Ei lafur yn Yarmouth a manau eraill. Gostegu y terfysgwyr yn Nghymdeithasfa Llanymddyfri–Blwyddyn ei Jiwbili–Anfon at Rowland, yn Llangeitho, i ofyn am undeb–Y ddau yn cyfarfod yn Nhrecastell– Harris yn teithio yn mysg y Methodistiaid Cymdeithasfa eto yn Nhrcfecca, gwedi tair blynedd–ar–ddeg–Cymdeithasfa Woodstock–Amryw Gymdeithasfaoedd eraill Coleg yr Iarlles Huntington yn Nhrefccca—Isaf–Ymweliadau y Methodistiaid a Threfccca–Terfyn oes Howell Harris.

XVIII.–PETER WILLIAMS

Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu–Ei fam yn ei fwriadu i'r weinidogaeth–Colli ei rieni yn foreu–Rhagluniaeth yn gofalu am yr amddifad–Peter Williams yn myned i athrofa Thomas Einion–yn cael ei argyhoeddi trwy bregeth Whitefield– Cael ei urddo yn guwrad eglwys Gymmun–Colli ei le oblegyd ei Fethodistiaeth– Colli dwy guwradiaeth arall am yr un rheswm–Yn ymuno a'r Methodistiaid–Ei daith gyntaf i'r Gogledd–Cael ei erlid oblegyd yr efengyl yn y Dê a'r Gogledd– Cael lle amlwg yn fuan yn y Gymdeithasfa–Yn ymuno a phlaid Rowland adeg yr ymraniad–Ysgrythyroldeb ei bregethau–Dwyn allan y Beibl mawr, gyda sylwadau ar bob penod Cyhoeddi y " Mynegair," yn nghyd a "Thrysorfa i wybodaeth," sef y cylchgrawn Cymreig cyntaf Anfoddlonrwydd i'w sylwadau gyda golwg ar y Drindod yr anfoddlonrwyrld yn cynyddu oblegyd iddo newid rhai geiriau yn Beibl Canne–Dadleu brwd yn y Gymdeithasfa–Peter Williams yn cael ei ddiarddel gan y Methodistiaid–yn gwneyd amryw geisiadau am ail brawf, ond yn lynu wrth ei olygiadau–Canlyniadau ei ddiarddeliad–Diwedd ei oes–Purdeb ei amcanion, a mawredd ei ddefnyddioldeb.