honoch ddweyd gair yno." Ymddengys fod William Pritchard yn ddyn gwrol a chryf; gwthiodd y Canghellydd a'i griw allan dros y trothwy, gan gau y drws ar eu holau. Ceisiodd Harris bregethu drachefn ar ol adfer tawelwch; ond ni chafodd ddrws agored, yr oedd ei yspryd ynddo wedi ei gythryblu yn ormodol, a therfynodd y cyfarfod trwy anog y bobl i ymgadw rhag bugeiliaid ysprydol annuwiol. Yn mhen amser bu y Canghellydd Owen farw tan farn amlwg.
Aeth oddiyno i le a elwir Ty'n Llanfihangel, gerllaw Rhydyclafdy. Daethai cynulleieifa anferth ynghyd, gan eu bod wedi clywed mai y gŵr a welsai weledigaeth ydoedd. Yn mysg eraill, daethai yno foneddwr, gyda bwriad i saethu y pregethwr. Eithr gan na chadwodd Mr. Harris ei amser, blinodd yn disgwyl, ac aeth adref i'w giniaw. Gyda ei fod wedi troi ei gefn dyna Harris yno. Pregethai yn yr awyr agored, a chafodd nerth anarferol i lefaru. Disgynai ei eiriau fel tân ar gydwybodau ei wrandawyr. "Yr ydych yn arfer gweddïo," meddai, gan gyfeirio ei sylwadau at y bobl annuwiol a arferent fynychu yr eglwysydd, " deled dy deyrnas. Beth pe yr ymddangosai efe yn awr, mewn gallu a gogoniant mawr, gyda myrddiwn o angelion a thân fflamllyd; ai ni waeddech allan: 'O Arglwydd, yr wyf yn anmharod; bydded i'th ddyfodiad gael ei oedi!" Cerddai grym dwyfol gyda'r ymadroddion; methai dynion caledion a thalgryf sefyll; cwympent fel meirw ar y maes; ac wrth fyned i'w cartrefi llefent ac wylent ar hyd y ffordd, fel pe buasai dydd yr Arglwydd gerllaw. Odfa ryfedd oedd yn ddiau. Dywedai un o'i wrandawyr i Mr. Harris bregethu y tro hwn nes oedd Lleyn yn crynu; " a dydi hi byth wedi dod ati ei hun," meddai.
Y dydd canlynol pregethodd yn Towyn, ger Tydweiliog, a hyny dan arddeliad rhyfedd. Dyma y pryd yr argyhoeddwyd John Griffith Ellis, a ddaeth yn ganlynol yn bregethwr, am weinidogaeth yr hwn y dywedir ei bod yn rhagori mewn rhai pethau ar eiddo ei holl gydoeswyr. Crybwyllir am un bregeth hynod o'i eiddo, yn Nghymdeithasfa y Bala, ar y geiriau, "Deffro gleddyf yn erbyn fy Mugail," pan y disgynodd rhyw dywalltiad nodedig fel cwmwl yn ymdori, nes y llesmeiriodd ef a llawer o'i wrandawyr gan nerth y dylanwad. Dan y bregeth hon o eiddo Mr. Harris, hefyd, yr argyhoeddwyd un o ferched y Tyddynmawr, a fu gwedi hyn yn wraig Mr. Jenkin Morgan. Daeth y Tyddynmawr mewn canlyniad yn " lletty fforddolion," ac yn noddfa i aml bererin lluddedig, pan yr oedd yr erledigaeth yn chwythu yn gryf. Ymddengys mai dwy waith y pregethodd gwedi hyn yn Sir Gaernarfon, sef yn Rhydolion, a Phorthdyn-llaen. Dychwelodd adref trwy Abermaw a Machynlleth. Bu yn galed arno wrth groesi y Traethmawr; ymosodwyd arno gan fintai o erlidwyr, "y rhai yr oedd yspryd mwrddwyr i'w canfod yn eu gwedd;" ond dihangodd o'u dwylaw, ac yn nhŷ gweinidog Ymneillduol y cafodd noddfa. Bu mewn perygl, hefyd, yn Machynlleth; ond cafodd groesaw mawr yn Llanbrynmair gan Mr. Lewis Rees, a siriolwyd ei yspryd yn hyfryd wrth weled cymdeithasau bychain wedi cael eu sefydlu mewn amrywiol fanau.
Ofer fyddai ceisio rhoddi hyd yn nod crynodeb byr o lafur a theithiau Howell Harris y blynyddoedd hyn. Cyniweiriai trwy swyddi Wilts, Caerloyw, Henffordd, a'r Amwythig; ymwelai a Bryste, Bath, a Llundain , a threuliai gryn amser y n y lle olaf a nodwyd. Gwibiai, fel pe byddai yn angel digorff, o'r naill gwr i'r llall o'r Dywysogaeth, trwy afonydd, a thros fynyddoedd anhygyrch, gan rybuddio pechaduriaid. Haf, 1742, bu yn Llundain am bedwar mis, nid yn segur, ond yn efengylu i'r Saeson yn y Moorfields, ac yn Lambeth. Dywedir y byddai yn pregethu yn Gymraeg yn aml yn Lambeth er budd ei gydgenedl. Cyfeiria ef at un tro arbenig yn ei ddydd-lyfr, pan y pregethodd am dri o'r gloch y prydnawn i dorf o Gymry, oddiar y geiriau: "Simon, mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i?" Tra yn y Brif-ddinas yr oedd gofal yr holl eglwysi yn pwyso arno; er hyny teimlai ei frodyr yn y Dywysogaeth ei eisiau yn fawr, a thaer gymhellent ef i ddychwelyd. Meddai Daniel Rowland wrtho mewn llythyr: " Ai nid ydych yn clywed eich holl frodyr yn Nghymru yn gwaeddi, 'Cymorth, cymorth, cymorth!' Frawd Harris, tydi ryfelwr dewr, pa le yr ydwyt? Beth, yn Llundain yn awr yn nydd y frwydr! Beth, ai nid oes gan Lundain ddigon o ryfelwyr i ymladd drosti? . . . Arglwydd da, tosturia wrth Gymru dlawd. Anfon ein brawd anwyl i'n mysg yn dy allu, ac yn nghyflawnder dy fendithion, a bydded i'r cythraul grynu o'i flaen. Amen, Amen."