Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel esiampl o'i lafur dirfawr, a pha mor ddiorphwys y teithiai, yr ydym yn cael ein temtio i roddi ei hanes am ran o Tachwedd a Rhagfyr, 1742. Dydd Iau, Tachwedd yr 11 , y mae yn gadael Llundain gyda'r cerbyd am 6 o'r gloch y boreu, er mwyn dychwelyd i Gymru. Yr oedd yr ymadawiad rhyngddo a'r gymdeithas yno yn nodedig o dyner. Pur wag oedd y cerbyd, cafodd yntau gyfleustra i ymddiddan a'r cerbydwr am fater ei enaid, ac â dynes ieuanc oedd yn cyddeithio ag ef, a gobeithia nad â y dylanwad i golli. Dydd Gwener y mae yn Reading, a theimla yn drymllyd a gwanaidd oblegyd colli ei gwsg. Ceisiodd yr Arglwydd, a chafodd neshad ato. Synai at natur y cyfamod trwy yr hwn y mae yr Arglwydd yn sicrhau ei ogoniant ei hun, ac iachawdwriaeth pechadur, a hyny y tu hwnt i gyrhaedd llygredigaeth. Gweddïodd tros yr eglwys yn Llundain, dros yr eglwys yn Nghymru, a thros yr holl weinidogion a'r cynghorwyr. Dydd Sadwrn teithia trwy Marlborough, yn swydd Wilts; a chan basio trwy Bath, cyrhaedda Bryste yn hwyr. Cyfid y Sul o gwmpas wyth, ac â ar unwaith i bregethu gyda y brawd Humphrey, a'r hwn y cafodd gymdeithas anwyl. Teimlai ei galon yn ymlynu wrtho, oblegyd y dystiolaeth ffyddlon a ddygasai yn erbyn y gweinidogion Ariaidd neu Undodaidd. Wrth bregethu cafodd ryddid mawr; ac er ei fod wedi colli ei gwsg, yr oedd yn llawn o nerth a bywiogrwydd. Pregethodd drachefn o gwedi deg hyd ddeuddeg oddiar 1 Thes. iv. 14, a thybia i'w weinidogaeth fod er bendith.

Dydd Llun, Tachwedd 15, y mae yn gadael Bryste am Gymru cyn chwech y boreu, ac yn cyrhaedd y Passage o gwmpas naw. Bu raid iddo aros yma y gweddïll o'r diwrnod, am ei bod yn amhosibl croesi y sianel. Ond yr oedd amser yn rhy werthfawr yn ei olwg i'w afradu. Wedi adgyfnerthu natur â lluniaeth, ysgrifenodd yn ei ddydd-lyfr hyd gwedi 12; yna aeth allan i bregethu i'r bobl oedd fel yntau yn disgwyl am y cwch; rhoddes yr Arglwydd ymadrodd iddo, a gweddïai yntau am gael ei wneyd yn halen y ddaear. Gwedi ciniaw ymosodwyd arno gan yr hen demtasiwn; beth oedd hono ni ddywed; ond rhoddodd Duw waredigaeth iddo. Methodd groesi dydd Mawrth eto, oblegyd yr ystorm, ond daliodd ar y cyfle i gynghori, ac agorodd yr Arglwydd glustiau y bobl i wrando. Siaradai am ei dröedigaeth, am ddydd y farn, am y cyfrif y rhaid i ni rhoddi o'n holl dalentau, gan eu nodi, pa fodd y dygwyd ef ei hun i weled nas gallai gael ei gyfiawnhau trwy weithredoedd, am haeddiant Crist, am ffydd, beth ydyw, a pheth nad yw, ac am ufudd-dod a chariad fel ffrwythau ffydd. Yn y prydnhawn y mae yn cynghori eilwaith. O gwmpas wyth yn yr hwyr cawsant groesi; yr oedd y gwynt yn ystormus, a'r tonau yn lluchio; meddyliai fod angau, efallai, yn agos, ond cafodd nerth i ymddiried.

Dydd Iau y mae yn Redwick, Sir Fynwy; cyrhaedda Watford, ger Caerphili, nos Iau, lle oedd yn gartref iddo pan ar ei deithiau yn y parthau hyn. Pa nifer o weithiau y pregethodd, ni ddywed; ond y mae yn sicr na chroesodd yr holl filldiroedd ar draws gwlad heb gymell eneidiau at Grist. Cawn ef yn Llanheiddel nos Wener; cyfi am 6 boreu Sadwrn, a dywed ei bod yn felus ar ei enaid yn y weddi ddirgel ac yn y ddyledswydd deuluaidd. Pregetha yn y boreu mewn lle o'r enw Coedcae-mawr; oddi yno cyfeiria ei gamrau tua'r Goetre, ger Pontypŵl. Yno clywodd am ganlyniadau ei lwyddiant blaenorol, nes y darostyngwyd ei enaid ynddo, a pheri iddo waeddi ei fod yn foddlon cael ei droi o'r neilldu, a'i sathru dan draed pawb, a'i fod yn adyn mor wael fel nad yw yn haeddu cael byw. Pregethodd oddiar Salm xli., am y galon doredig; cafodd odfa hyfryd; teimlid yno nerth dirfawr, yn arbenig ar rywun oedd o'r blaen yn llawn rhagfarn tuag ato. Dydd Sadwrn aeth i'r Fenni; cafodd yno ryddid mawr mewn gweddi, yn arbenig wrth gyffesu ei bechodau. Llefarodd oddiar Matt. v. 3-8, gan ddangos gwir natur tlodi yspryd, ac mai dyna y cam cyntaf at Grist. Yna gwnaed iddo ddyrchafu ei lais i alw yr holl bechaduriaid tlodion, colledig, a hunan gondemniedig at y Gwaredwr, gan gyfaddef ei hunan y gwaelaf a'r balchaf o bawb, a'u cymhell at yr Iesu. Cred i rai ddyfod. Ymddengys hefyd fod rhyw ofid dwys yn gwasgu arno y pryd hwn mewn cysylltiad a'r diwygiad; drosodd a throsodd dywed nad arno ef yr oedd y bai; ond fod ei galon ar dori o'r herwydd. Pa beth ydoedd, nid oes genym ond dyfalu; yn ol pob tebyg, rhyw chwedl gelwyddog, yn drwgliwio ei gymeriad, yn cael ei thaenu ar led. Nos Sadwrn, breuddwydiodd fod Esgob Rhydychain yn pregethu yn y 'stryd, ac yn dweyd fod yn rhaid i bawb deimlo cariad Crist wedi ei dywallt ar led yn eu calonau, fel yr oedd yn ei galon ef; llanwodd hyn yspryd Harris â mwynhad.