Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi bod yn achlysur i lawer o'r myfyrwyr i ymollwng i gyfeiliornadau blin mewn barn a buchedd. Bu farw yn mhen tair blynedd wedi i Williams adael y sefydliad, sef yn 1741. Nid oes gair o hanes Williams tra y bu yn yr athrofa genym; ond gellir casglu ddarfod iddo wneyd defnydd da o'i gyfleusderau. Yr oedd yn lletya, debygid, gyda Mr. Price yn Llwynllwyd, ac yn mynychu capel Annibynol Maesyronen ar y Sabbathau. Tebygol fod ei holl fryd yn y tymhor hwn ar gasglu gwybodaeth, yn enwedig yn y cangenau hyny sydd yn dal perthynas a'r alwedigaeth feddygol, oblegyd dyma y cyfeiriad a fwriadai gymeryd. Sefydliad at barotoi pobl ieuainc ar gyfer y weinidogaeth oedd yr athrofa; ond cafodd ef fynediad iddi fel lay stndent. Nid oes hysbysrwydd pa hyd o amser y bu yn yr athrofa hon, ond gwyddis ddarfod iddo orphen ei efrydiaeth ynddi yn y flwyddyn 1738. Gan yr arferai pobl ieuainc aros mewn athrofeydd, yr amser hwnw fel yn bresenol, am dair neu bedair blynedd, aeth yno naill ai yn y flwyddyn 1734 neu 1735. Yr oedd mynediad Williams i Llwynllwyd felly agos yn gyfamserol a throedigaeth Howell Harris, a ffaith ryfedd, nas gellir yn hawdd gyfrif am dani ydyw, na ddaeth i gyffyrddiad personol a'r Diwygiwr o Drefecca yn ystod yr amser yr arhosodd yn yr athrofa. Rhaid iddo glywed llawer o son am dano. Gwedi ei argyhoeddiad daeth Harris i enwogrwydd buan, dechreuodd bregethu i'w gymydogion yn Nhalgarth, a chynyrfu y wlad o gwmpas yn ddiymaros. Cyn diwedd y flwyddyn 1737 yr oedd wedi ymweled a phob ardal yn Sir Frycheiniog, gan sefydlu seiadau, ac yr oedd wedi sefydlu amrai o'r cymdeithasau hyn yn Siroedd Maesyfed a Henffordd. Ond nid yw yn ymddangos iddo bregethu yn Glasbury, y pentref agosaf at Llwynllwyd, yn ystod yr adeg hon. Efallai, gan fod yr athrofa mor agos, y tybiai y gallai adael y lle i'r gweinidog duwiol a dysgedig oedd yn athraw arni, ynghyd a'r Parch. David Price, gweinidog parchus Maesyronen. Gwedi hyn, pa fodd bynag, sef yn y flwyddyn 1738, ysgrifenodd y Parch. Vavasor Griffiths at Harris, yn ei wahodd yno, a diau iddo yntau gydsynio a'r gwahoddiad, o herwydd gwelwn oddiwrth gofnodau Cymdeithasfa gyntaf Watford, fod eglwys Fethodistaidd yn Glasbury yn 1743. Ond dichon fod hyn wedi i Williams adael Llwynllwyd. Nis gall nad oedd gweithredoedd nerthol y Diwygiwr, a hynodrwydd neillduol ei weinidogaeth, yn destun siarad mawr yn yr athrofa, yn enwedig pan gofiom mai rhai a'u bryd ar y pwlpud oedd y rhan fwyaf o'r efrydwyr. Y mae yn fwy na thebyg i amryw o honynt fyned yn unswydd i Dalgarth, pellder o tua chwech milltir, er mwyn ei wrando. Pa fodd nad aeth Williams gyda hwynt, nid oes genym ond dyfalu. Efallai ei fod, fel llawer o'r Ymneullduwyr ar y pryd, yn dirmygu yn ei galon ŵr diurddau yn myned o gwmpas i gynghori. Neu efallai fod ei wanc am wybodaeth yn gryf, tra nad oedd ei dueddiadau crefyddol ond gwan ac eiddil. Hyn sydd sicr, tra yr oedd Howell Harris yn cyffroi y wlad, ac yn rhybuddio yr annuwiol i ffoi rhag y llid a fydd, yr oedd y llanc o Bantycelyn yn ymgolli yn ei efrydiau, ac yn ddifater am gyflwr ei enaid.

Ond daeth adeg ymadael a'r athrofa, ac yn y flwyddyn 1738 yr ydym yn ei gael yn dychwelyd adref i dŷ ei dad. Yr oedd ganddo daith faith, dros ddeg-ar-hugain o filldiroedd; arweiniai y ffordd ef drwy dref Talgarth, ac heibio i fynwent yr eglwys. Yr oedd Harris yn pregethu ar y fynwent, pan yr oedd efe yn pasio. Aeth i mewn i'r fynwent i weled a chlywed am y tro cyntaf y dyn y clywsai gymaint son am dano; a chafodd ei argyhoeddi mor sydyn ac mor effeithiol ag yr argyhoeddwyd Paul ar y ffordd i Damascus. Damwain hollol o du Williams ydoedd hyn, ond

"Yr hyn sy'n ddamwain ddall i ddyn,
Sy'n oleu arfaeth Iôr."

Ac yr oedd cyfarfyddiad digwyddiadol Williams a Howell Harris y boreu hwn o ganlyniadau pwysig iddo ef ei hun, ac i eglwys Crist yn Nghymru, o leiaf tra y bydd hi yn parhau i. addoli yn yr iaith Gymraeg.

Y mae yn anhawdd peidio benthyca desgrifiad y diweddar "Hiraethog " (Dr. William Rees) o droedigaeth Williams, er ei fod yn mhell o fod yn hanesyddol gywir, fel y cawn sylwi eto: "Ar ryw fore (Sabboth, y mae'n debygol) yn y flwyddyn 1738, dyna sain cloch llan blwyfol, mewn pentref neillduedig yn Sir Frycheiniog, yn gwahodd yr ardalwyr i ymgynull ynghyd i'r gwasanaeth crefyddol. Ymgynulla lliaws at eu gilydd. Yn eu mysg, dacw ŵr ieuanc, oddeutu un-ar-hugain oed, o gorff lluniaidd, a thaldra canolig, ac ymddygiad mwy boneddigaidd na'r cyffredin, yn myned i mewn i le yr addoliad. Telir sylw mwy na chyffredin iddo. Y mae naill ai yn ddyeithr yn y lle, neu y mae