newydd ddychwelyd i blith cydnabyddion wedi cryn absenoldeb. Craffwch arno! y mae rhywbeth yn ei wynebpryd a dynodiant ei lygaid a bar i chwi deimlo rhyw fwy o ddyddordeb ynddo nag mewn unrhyw ŵr ieuanc arall drwy yr holl gynulleidfa; ond ni wyddoch yn iawn pa beth ydyw chwaith; rhywbeth ydyw na ellwch roddi cyfrif am dano, ac na ellwch chwaith help i chwi eich hunain wrtho. Par i chwi yn awr ac yn y man, drachefn a thrachefn, daflu eich llygaid arno, bron yn ddiarwybod i chwi eich hun. Dyma y gweinidog yn dyfod i mewn, a'r gwasanaeth yn myned i ddechreu. Ar hyn, wele ŵr canol oed, lled fyr o gorffolaeth, o agwedd difrif-ddwys anghyffredinol, yn dyfod i'r lle. Y mae pob llygad yn y synagog yn canolbwyntio arno. Cynhyrfa yr olwg arno wahanol deimladau yn y gynulleidfa, y rhai a ddadguddiant eu hunain drwy lygaid a delweddau wynebpryd y naill a'r llall. Ei ymddangosiad a dery fath o syndod ac arswyd drwy y lle. Y sylw a'r teimladau rhyfeddol a gynhyrfid fel hyn drwy ei ymddangosiad a enyn gywreinrwydd y gŵr ieuanc y buom yn edrych arno, a gofyna yn wylaidd a dystaw i'r agosaf ato: 'Pwy yw y gŵr rhyfedd hwn sydd yn enill y fath sylw cyffredinol ato?' Yr ateb yw: 'Dyna Howell Harris! ' Y mae meddwl a llygaid y gŵr ieuanc yn y fan yn cael eu hoelio wrtho. Clywsai bethau rhyfedd am dano, ond ni welsai ef o'r blaen. Dyma y dyn hynod oedd yn aflonyddu y byd, ac fel yn gyru dynion a chythreuliaid i gynddeiriogrwydd, yn awr o flaen ei lygaid! Edrycha arno gyda gradd o ofn a chryndod.
"Dyma y gwasanaeth ar ben; rhedasid drwyddo mewn dull sychlyd a marwaidd. Arweinir y gynulleidfa allan gan y gweinidog; a efe yn mlaen, gydag un neu ddau o'i blwyfolion tua'r persondy; ond erys y gynulleidfa ar y fynwent, ac ymgasgla eraill o'r pentref a'r wlad oddiamgylch atynt. Erys y gŵr ieuanc hefyd ar ol. Yn mhen ychydig, dyma y gŵr a welsom gynau yn dyfod i'r llan, yn esgyn ar gareg fedd, a phob llygad wedi ei adsefydlu arno. Y mae bywiogrwydd anghyffredin yn gerfiedig ar lygad ac wynebpryd y gŵr ieuanc yn awr. Dyna genad y nef yn agoryd ei enau. Y mae ei lais fel swn taranau cryfion, neu adsain dyfroedd lawer; disgyna ei eiriau fel tan poeth ar y bobl. Newidia IIiw eu hwynebpryd gyda phob ymadrodd. Ai yr un bobl a welwn yn awr yn y fynwent ag a welsom ychydig fynydau o'r blaen o fewn y muriau yna? lë, yr un bobl gan mwyaf ydynt; ond nid yr un yw y pregethwr. ' Y mae hwn yn llefaru fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.' Gafaela rhywbeth yn meddyliau a chydwybodau y bobl yn awr, a bar i'r cryfaf ei galon frawychu, ac i'r gliniau cadarnaf guro yn erbyn eu gilydd. Y mae fel pe bai y nefoedd yn gwlawio tan a brwmstan am eu penau. Llenwir rhai o gynddaredd yn erbyn y pregethwr a'i athrawiaeth; eraill a lesmeiriant dan bangfeydd o argyhoeddiad cydwybod; eraill a lefant allan: ' Pa beth a wnawn ni?' Y mae yn gyffro cyffredinol; ond pa le mae y gŵr ieuanc dyddorgar hwnw? Dacw efe, a'i wyneb wedi gwynlasu, a'i holl gorff yn ysgwyd gan gryndod a braw. Y mae yn wir ddelw o ddychryn. Dysgwylia bob moment weled Mab y Dyn yn dyfod ar gymylau y nefoedd. Aeth rhyw saeth loyw-lem oddiar fwa athrawiaeth y gŵr sydd ar y gareg fedd acw i'w galon. Y mae cleddyf dau-finiog wedi ei drywanu hyd wahaniad yr enaid a'r yspryd. Y mae ganddo olwg wahanol arno ei hun yn awr i'r hyn fu ganddo erioed o'r blaen. Mewn gair, y mae yn ddyn newydd. Daeth allan o'r fynwent y boreu hwnw wedi ei greu o newydd."
Y mae yn hysbys bellach nad yw y desgrifiad campus uchod yn cydgordio yn hollol a ffeithiau hanes. Y mae mor fyw a phrydferth, fel y mae perygl yr anghofir mai desgrifiad barddonol ydyw, ac mai un felly y bwriadwyd iddo fod. Heb hyny, gall fod i fesur yn gamarweiniol. Cymerodd "Hiraethog" drwydded y bardd pan yn ei ysgrifenu, ac y mae y darlun, er cystal ydyw, yn wallus mewn amryw o fanylion. Gwir fod gan hanesydd, yn enwedig bardd hanesydd, drwydded i lanw i fynu ddiffygion hanesiaeth a'i ddychymygion ei hun, ond iddynt fod yn naturiol a phriodol. Ond y mae i hyn ei derfynau. Rhaid i'r bardd barchu ffeithiau, a chadw mewn perffaith gydgordiad a hanesiaeth awdurdodedig. Fel yr oedd yn ofynol i brophwydi yr oes apostolaidd, pan brophwydent, brophwydo yn ol cysondeb y ffydd; felly, rhaid i feirdd ein hoes ninau, pan farddonant, farddoni yn ol cysondeb hanes. Tebygol, os nad sicr ydyw, na ddarfu Williams fwriadu yn mlaen llaw gwrando Howell Harris yn pregethu'yn Nhalgarth; y mae yn anhebygol hefyd ei fod yn bresenol yn ngwasanaeth yr eglwys y boreu hwnw;