Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac y mae yn sicr na ddarfu iddo weled Howell Harris yn ystod y gwasanaeth, os oedd yn bresenol. Nid oddiar gareg fedd ychwaith yr oedd Harris yn pregethu ar y fynwent, ac y mae y desgrifiad o oedran y pregethwr yn wallus; desgrifir ef yn " ŵr canol oed," tra nad oedd ar y pryd ond 24 oed. Nid yw yn debygol ychwaith mai Sabbath ydoedd, gan fod Williams ar ei ffordd adref, a bod yr hen Bresbyteriaid yn fanwl iawn mewn cadw y dydd yn gysegredig. Ac os mai yr hen Price Davies a weinyddai, ni redwyd trwy y gwasanaeth mewn dull sychlyd a marwaidd. Ond y mae yn ddarlun swynol er y diffygion hyn. Fel hyn y dywed Williams ei hun am ei argyhoeddiad yn marwnad Howell Harris:

"Dyna'r fan trwy'n fyw mi gofiaf,
Gwelais i di gynta' erioed,
O flaen porth yr eglwys eang,
Heb un twmpath dan dy droed;
Mewn rhyw yspryd dwys nefolaidd,
Fel yn ngolwg byd a ddaw,
Yn cynghori dy blwyfolion
A dweyd fod y farn gerllaw."

—————————————

CAPEL ANNIBYNOL. MAESYRONEN.

(Sef yr Addoldy y byddai Williams yn ei fynychu, tra yn Athrofa Llwynllwyd.

—————————————

Gwelir fod y penill hwn yn gwrthddywedyd y desgrifiad uchod mewn dau bwynt o leiaf. Y mae yn amlwg mai "o flaen porth yr eglwys eang" y gwelodd y bardd Harris "gynta' erioed," felly nis gwelsai ef cyn hyny yn ystod y gwasanaeth yn yr eglwys. Ac nid ar gareg fedd yr oedd yn pregethu ychwaith, ond " heb un twmpath dan ei droed," yr hyn yn ddiau sydd yn golygu ei fod yn sefyll ar y llawr gwastad. Y mae tri phenill yn y gan,[1] " Golwg ar Deyrnas Crist," a ymddengys i ni yn cau allan y golygiad fod Williams yn awyddus am wrando ar Howell Harris ar ei ffordd adref yn Nhalgarth. Y mae y bardd yn y gan hono yn cyfarch ei enaid ei hun fel yma:—


"Fy eanid, d'wed pwy ddyben, pwy feddwl, pwy barto'd,
Oedd ynot yn yr amser y'th alwyd gynta' erioed?
Trwy foddion anhebygol, y denwyd fi oedd ffol,
Mewn amser anhebygol i alw ar dy ol.

Yr arfaeth oedd i esgor, fe ddaeth dy drefn lan,
Yn ddiarwybod imi a'r moddion yn y blaen;
Pob peth yn ffìtio'r dyben, gylch ogylch dan y nen,
Mab Cis yn lle asynod, gas goron ar ei ben.

Zachëus, bach y meddyliodd, ac yntau'n dringo fry,
D'ai iachawdwriaeth rasol, pryd hyny idd ei dŷ;
Ac felly Paul a Phetr, a Magdalen, a mwy,
A minau'n ddibarotoad, gâs fywyd gyda hwy."

Y mae yn dra sicr genym mai amcan y bardd yn y llinellau uchod ydyw dangos pa cyn leied o law fu ganddo ef ei hun yn

  1. Gweithiau William Williams Bantycelyn, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, cyf. i., tudal. 163.