Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

man heblaw yn yr eglwysi, yn y plwyfau yr oedd yn gweinidogaethu ynddynt."

A ydym ynte yn barod i gydnabod ddarfod i Williams ddatgan ei edifeirwch am fyned i bregethu i'r prif-ffyrdd a'r caeau? Nac ydym, yn bendant. Ond yr ydym ar dystiolaeth Charles yn barod i gredu ddarfod iddo ddangos ei edifeirwch am beidio cyfyngu ei hun dros amser ei guwradiaeth o fewn ei blwyf. Collodd, drwy wneyd fel y gwnaeth, sefyllfa o anrhydedd yn mhlith ei frodyr am ei holl fywyd, a chollodd yr eglwysi ei wasanaeth yn ngweinyddiad yr ordinhadau hefyd. Bu hyn yn fwy o anfantais iddo, hwyrach, nag ydym yn ei feddwl. Yr ydym ni yn ystyried William Williams yn gydystâd a Daniel Rowland, Howell Davies, William Davies, Castellnedd, ac eraill, ond nid ydoedd felly. Pregethwr yn unig oedd efe, tra yr oeddynt hwy yn weinidogion ordeiniedig, ac yn meddu rhagorfreintiau eu swydd. Medrai yr holl offeiriaid Methodistaidd gymeryd lle Daniel Rowland ar Sul y cymundeb yn Llangeitho, pan y byddai galwad am hynny; ond nis meiddiai Williams wneyd felly, er ei fod yn bresennol fynychaf. Yr oedd yn cynorthwyo ar y cymundeb, ond nid yn gweinyddu. Bu yn llanw lle ail-raddol felly yn Llangeitho, yn agos i hanner cant o flynyddoedd. Bu yn pregethu hefyd am bymtheg-mlynedd-arhugain, unwaith y mis, yn nghapel Llanlluan, lle ag y gweinyddid yr ordinhadau ynddo. Ar Sul y cymundeb yr oedd yn rhaid iddo ef i rhoddi lle i ryw ŵr ordeiniedig ag a fyddai o bosibl yn fyrrach ei ddawn, ac yn llai ei gymhwysderau nag ef ei hun. Y mae yn naturiol i feddwl fod Williams yn aml yn teimlo y diraddiad hwn; ac y mae yn hollol gredadwy ddarfod iddo yn mhrydnawn ei ddydd gydnabod wrth Mr. Charles ei fod wedi gweithredu yn annoeth a byrbwyll, pan yn guwrad yn Llanwrtyd. Ond y mae ddarfod iddo ddatgan edifeirwch am bregethu mewn lleoedd anghysegredig, ond dan yr amgylchiadau yr oedd efe ynddynt yn ystod ei guwradiaeth, yn hollol anhygoel. Y mae ei eiriau a'i weithredoedd dros ei holl fywyd yn dangos yn amgen.

Blwyddyn nodedig iawn yn hanes Williams ydyw 1743, blwyddyn cynhaliad Cymdeithasfa gyntaf y Cyfundeb. Yn y Gymdeithasfa hono, a gynhaliwyd yn Watford, ar y 5ed a'r 6ed o Ionawr, y cyfarfyddodd efe gyntaf a'r enwog George Whitefield. Hwyrach mai yn hon y bu efe yn annog Williams i adael yr Eglwys Wladol, a myned i'r prif-ffyrdd a'r caeau. Os felly bu, rhaid mai mewn ymddiddan cyfrinachol y gwnaed hynny, o herwydd nid oes yn yr adroddiad grybwylliad am hyn, hyd yr ail Gymdeithasfa, a gynhaliwyd yn yr un lle ar y 6ed a'r 7fed o Ebrill. Yno pasiwyd penderfyniad "Fod y Parchedig Mr. Williams i adael ei guwradiaeth, a bod yn gynorthwywr i'r Parchedig Mr. Daniel Rowland." Yn ychwanegol at hyn, penodwyd ef yn Gymedrolwr ar un o'r pump dosbarth y rhannwyd y wlad iddynt, sef Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn; a gosodwyd yr enwog Richard Tibbot yn arolygwr dano. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd rhwng y ddwy Sasiwn yn Watford, sef ar y 3ydd o Chwefror, yn nhŷ Jeffrey Dafydd, o'r Rhiwiau, yn mhlwyf Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, gosodwyd gorchwyl pwysig arall ar ei ysgwyddau ef . Yr oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwn, Howell Harris, Daniel Rowland, William Williams, a dau neu dri o gynghorwyr; a dywed Mr. Charles, "er nad oedd ond cyfarfod bychan o rhan nifer, ei fod wedi ei anrhydeddu yn fawr a phresenoldeb yr Arglwydd. Ar yr ail ddydd, darfu i Howell Harris annog pawb ag oedd yno i gyfansoddi ychydig benillion o brydyddiaeth erbyn y cyfarfod nesaf, i edrych a oedd yr Arglwydd wedi rhoddi dawn prydyddiaeth i un o honynt, a phwy oedd hwnnw. Felly y gwnaethant; ac wedi iddynt i gyd ddarllen eu cyfansoddiadau, penderfynwyd yn gydun mai Mr. William Williams a gafodd y ddawn odidog hon, ac anogodd Mr. Harris, a phawb eraill, iddo ei harferyd er gogoniant Duw, a lles ei eglwys." Gwelir felly iddo gael ei apwyntio i wasanaeth fel efengylydd ac fel bardd, yn agos iawn i'r un amser. Sut y cyflawnodd efe y dyledswyddau hyn? Cawn weled yn y man. Edrychwn arno yn gyntaf fel efengylydd. Gwnaed ef yn brif swyddog ar eglwysi Maesyfed a Threfaldwyn, a thrwy ei fod yn gynorthwywr i Daniel Rowland, ar yr hwn yr oedd gofal rhan uchaf Sir Aberteifì a Sir Gaerfyrddin, yr oedd rhan o ofal y siroedd hynny hefyd yn gorphwys arno ef. Cyflawnodd ddyledswyddau ei swydd gyda'r fath ymroddiad a zêl ag yr oedd yn bosibl i neb wneyd, ac eithrio Howell Harris ei hun. Gwnai, nid yn unig gadw golwg gyffredinol ar eglwysi ei ofal, ond gwnâi i fynnu ddiffygion y cynghorwyr oedd dano, gan ymweled a'r eglwysi ei hun, a danfon adroddiadau