o'i sefyllfa i'r Cymdeithasfaoedd. Cawn enghraifft o hyn yn hanes eglwysi Llangwyryfon, Lledrod, Rhydfendigaid, &c., yn Sir Aberteifi. Yr oedd arholygiad yr eglwysi hyn yn gorphwys ar Morgan Hughes. Yn rhyw sut, methodd gyflawni ei ymddiriedaeth, ac ymwelodd Williams a'r eglwysi, ac y mae dau adroddiad a ddanfonodd Williams am danynt yn awr ar gael a chadw, yn llawysgrifau Williams ei hun, yn Nhrefecca.[1] Y mae y cyntaf o honynt yn rhy faith i'w osod i fewn yma. Rhydd adroddiad manwl am y pump eglwys ar wahân, a diwedda trwy ddweyd: " Yr wyf fi fy hun yn ymweled a hwy unwaith yn y chwech wythnos, ac yn cadw cwrdd eglwysig gyda hwy, fel y gwypwyf eu syniadau a'u sefyllfa. Teimlwyf gariad ac ymlyniad atynt, ac felly hwythau tuag ataf finnau. Y mae derbyniad caredig i'w cynghorwr anghyoedd yn gyffredinol yn eu mysg, a da ganddynt gael eu holi ganddo ef, a chennyf finnau. Yr wyf yn sylwi mai y fath a fydd y cynghorwr, pa un ai zêlog, siriol, a ffyddlawn, ai ynte claiar, &c., y cyfryw hefyd a fydd y bobl o dan ei ofal." Ceir adroddiad byr arall ganddo am yr un eglwysi, dyddiedig Mehefin 2gain, 1745, yn yr hwn y dywed: " Nid oes gyda mi fawr o hanes neillduol am danynt, oddiwrth yr hyn a gawsoch o'r blaen. Y maent yn para i ddyfal lynu wrth yr Arglwydd. Y rhan fwyaf o honynt sydd yn cynyddu mewn adnabyddiaeth o honno. Mae arnaf fi a hwythau ryw faint o flinder, am ein bod mewn eisiau o gynghorwyr preifat i edrych atynt yn wythnosol. Y rhai a fynnant hwy eu cael, nis gallant ddyfod; a rhai a all ddyfod, nis derbyniant. Ond yr wyf yn gobeithio y caiff hyn ei gyflawni." Dengys hyn ei fod yn barod at bob gorchwyl, ac nad ystyriai yr un ddyledswydd yn rhy ddistadl iddo ef ei hun ei chyflawni.
Y mae olrhain teithiau a llafur Williams am hanner cant o flynyddoedd yn anmhosibl. Nid ysgrifennwyd hwynt ond yn Llyfr bywyd yr Oen. Fel hyn y dywed awdwr i Methodistiaeth Cymru am dano: "Mae yr hen ganiedydd peraidd, Williams, Pantycelyn, yn ei hen ddyddiau, pan yr oedd yn 73 mlwydd oed, ac yn tynnu yn agos i derfyn ei oes, yn dweyd:—[2] 'Mae fy nyddiau yn tynnu tua'r terfyn; y mae fy ngyrfa ymron wedi ei rhedeg. Cefais oes faith; yr wyf yn awr yn 73 mlwydd oed. Yr wyf wedi bod yn pregethu am y 43 mlynedd diweddaf,[3] ac wedi teithio bob wythnos at eu gilydd, rhwng deugain a deg-a-deugain o filldiroedd, dros yr holl amser hynny. Y gwanwyn diweddaf, mi a deithiais bedair neu bum' waith drwy Ddeheudir Cymru; pob taith yn para pythefnos o amser, ac yn 200 milldir o hyd.'
"Gellir ffurfio rhyw ddrychfeddwl am ei deithiau, pan y dywedir iddo deithio digon o filldiroedd i gyrhaedd bedair gwaith o amgylch y ddaear,—nid llawer llai na chan' mil o filldiroedd! O ba faint o ddefnydd y gellir meddwl y bu y gŵr hwn yn ei oes i Gymru dywel? Pa sawl pregeth a draddododd? Pa sawl cyfarfod eglwysig a gadwodd? Ac yn mha nifer o gyfarfodydd cyhoeddus y bu? A phan y galwn i gof fywiogrwydd ei yspryd, tanbeidrwydd seraphaidd ei feddyliau, a'i ddibyniad cyson ar Dduw am ei fendith, pa swm o ddaioni, gan ei faint, ni chwblhaodd? Sicr yw ddarfod i'r cwmwl hwn, mewn ysbaid 43 o flynyddoedd, ddefynu llawer o gawodydd bendithiol ar diroedd cras y Dywysogaeth; ie, y mae efe wedi marw yn llefaru eto yn ei emynau bywiog, a'i gyfansoddiadau barddonol; a thrwyddynt hwy, y mae yn parhau hyd heddyw i adeiladu a chysuro plant Duw, yn filoedd ar filoedd ar hyd Cymru oll, ac yn llawer o drefydd Lloegr, ie, yn nhir y Gorllewin bell; a diau gennyf y pery ei waith barddonol yn ei flas a'i ddefnyddioldeb am oesoedd eto i ddyfod."
Awgrymir weithiau, gan rai pobl, nad oedd Williams ond pregethwr cyffredin, a bod ei nerth yn gorwedd mewn cyfeiriadau eraill. Nid hyn oedd syniad y bobl oeddynt yn cydoesi ag ef. Dyrchafent hwy ei
- ↑ Gwel Methodistiaeth Cymru, cyf. ii., tudal. 27.
- ↑ Methodistiaeth Cymru Cyf. i., tudal. 206.
- ↑ Mae yma gamargraff. Pan yr oedd Williams yn 73 oed, yr oedd wedi bod yn pregethu am 50 mlynedd, ac nid am 43. Y mae y dyfyniad Seisonig, a geir yn nechreu yr ysgrif hon, yr un mor wallus. Felly y ceir y cyfrif gan y Parchn. .J. Hughes a N. Gynhafal Jones. Ceir y cyfrif yn gywir yn y copi o lythyr Williams at y Parch. T. Charles, fel y mae yn Yr Arweinydd, cyf. v., tudal. 180. Dyddiad y llythyr yw Ionawr 1af, 1791. Dywed yno fel yma:— "Deallwch, er fy mod wedi gwella rhyw faint o'r poen dirfawr fu arnaf, nid wy' ond gwan a llesg eto, ac yn analluog iawn, ac nid oes geni fawr gobaith gallu dyfod allan fawr neu ddim byth mwy, am fy mod yn 73 oed; ond meddyliwch fath siomedigaeth i ddyn ag oedd yn trafaelio agos i dair mil o filldiroedd bob blwyddyn tros 50 o flynyddau, fod yn awr heb drafeilio dim rhagor na 4 o droedfeddi yn y dydd, sef o'r tân i'r gwely."