na fyddo yn cadw y cyffelyb drefniant, ond ydynt yn cyduno a ni am y prif athrawiaethau, a chyda golwg ar fywyd crefydd. Ond yr wyf yn foddlon i aros fel yr ydym parthed disgyblaeth eglwysig, hyd nes y byddo i Dduw roddi i ni drefn a disgyblaeth well yn ei amser ei hun.
"3. Gyda golwg ar fy undeb a'r cyffredinolrwydd o'r corph o honom ni, ac a'r Ymneillduwyr, y mae undeb fy nghalon yr un a'r undeb a broffesaf, ac a ddangosaf yn fy ymddygiad. Fel y darfu i mi adael yr Ymneillduwyr, o ran cymeryd fy llywodraeth ganddynt, a rhoddi fy hun i'ch llywodraeth chwi, gan broffesu fy hun yn aelod gyda chwi, felly yr wyf yn teimlo yn fy nghalon fwy o undeb a'r cyffredinolrwydd o honoch nag a'r Ymneillduwyr. Ond y mae yr amryw brofedigaethau a gefais y blynyddoedd diweddaf wedi bod mor gryfìon, fel na fedraf dderbyn egwyddorion crefyddol, na threfn eglwysig, oddiwrth unrhyw blaid o bobl, yn unig am eu bod hwy yn eu proffesu, heb i mi fy hun weled eu gwirionedd. Nid wyf yn awr, ychwaith, mor hawdd fy moddhau o wirionedd pethau ag oeddwn unwaith, am fy mod yn gweled ddarfod i mi gael fy nhwyllo wrth dderbyn golygiadau fel gwir, gan feddwl fy mod wedi fy ngoleuo ynddynt gan yr Yspryd Glan, tra y gwelais ar ol hyny nad oedd fy ngoleuni ond rhanol ac anmherffaith. Hawdd genyf gyffesu ddarfod i mi gredu mor gryf yn nghywirdeb rhai pethau, fel na phetruswn sefyll drostynt, hyd yn nod pe bai y bobl gallaf a goreu yn barnu yn wahanol; ac yr oedd fy zêl wedi tyfu gymaint goruwch fy marn, fel na ddarllenwn unrhyw lyfr a fyddai yn groes i'm golygiadau, fel pe bawn yn berffaith mewn gwybodaeth, ac yn anffaeledig; ac yr oeddwn yn barod i gondemnio unrhyw un, fel dyn anwybodus, a ddywedai air yn fy erbyn. Ond cefais fynych achos i newid fy syniad am anffaeledigrwydd fy ngwybodaeth gwedi hyn. Ond yn awr teimlaf rwymau i fod yn eiddigus gyda golwg ar fy ngwybodaeth, ac i ddirnad pethau yn ddwfn cyn eu credu, ac nis gallaf ddirnad dim heb gael fy nysgu gan Yspryd Duw. Er fy mod yn fwy mewn undeb A chwi nag a'r Ymneillduwyr, eto gwelaf amryw bethau yn ein mysg sydd yn gofyn am gael eu diwygio: (a) Ein bod yn rhy barod i dderbyn pethau fel gwirionedd, heb eu chwilio yn ddigon manwl, ac i farnu yn dda am danynt, yn ol y gradd o gysur a weithiant oddimewn i ni. (b) Tueddwn i edrych ar bob cysur a dyddanwch fel cynyrch Yspryd Duw, yn yr hyn y dylem weithiau fod yn dra gochelgar, ac hefyd i farnu bywyd crefydd wrth zêl, a gwresowgrwydd teimladau, gan gondemnio eraill nad ydynt lawn mor zêlog fel defodwyr. Gwell genyf fi farnu pobl wrth eu hymarweddiad cyffredinol, yn hytrach nag wrth yr hyn a ymddangosant mewn odfaeon. (c) Y mae yn ein mysg ormod o yspryd partioi, yr hyn wyf yn ei gashau yn mhawb. Yr ydym yn rhy barod i gondemnio rhai o'n brodyr, yr Ymneillduwyr, i'w cau allan o'n cymdeithas, ac i ddweyd yn eu herbyn; yr hyn, pe y gwnaethent hwy a ni, a alwem yn erledigaeth. Y mae yspryd agored, diragfarn, yn werthfawr.
"4. Gyda golwg ar yr Ymneillduwyr, yr wyf yn caru yr hyn sydd dda ynddynt; ond cyn y gallaf eu barnu yn gywir, rhaid i mi wybod eu hamgylchiadau, oblegyd wahaniaethant gymaint yn eu mysg eu hunain ag a wahaniaethwn ni oddiwrthynt hwy; felly, nid wyf yn cyduno a'r Sociniaid, yr Ariaid, yr Arminiaid, a'r Baxteriaid sydd yn eu mysg; ond y mae y rhai difrifol a sobr o honynt mor anwyl i mi a neb, ac yr wyf yn cadw ar y telerau mwyaf anwyl a hwynt. Eithr nid wyf yn cael fy nghario i roddi fy hun dan eu llywodraeth, am fy mod yn credu mai ewyllys Duw yw i mi aros fel yr wyf,
"5. Y mae gennyf rai pethau i'w gosod ger eich bron, a fyddai, fel yr wyf yn credu, yn fuddiol i ni: (a) Dylem fod yn fyrrach, os yw bosibl, wrth ymdrin ag allanolion, gan ymddiddan mwy am brif bynciau crefydd, a holi ein hunain am ein sail, a'n sicrwydd, a'n profiad o honynt. Gwedi dod mor bell i'n Cymdeithasfaoedd, da fyddai i ni hebgor peth o amser cysgu, ac amser bwyta, gan ymroddi i adeiladu y naill y llall yn ysprydol. (b) Tueddaf i feddwl mai buddiol i ni fyddai rhoddi ein barn gyda golwg ar egwyddorion mewn argraff, fel na byddo camsyniadau, na lle i neb feddwl ein bod yn coleddu syniadau nad ydym. Byddai hyn, hefyd, yn gymorth i ni ddeall golygiadau ein gilydd, ac yn tueddu i fwy o undeb. A manteisiol fyddai gadael tystiolaeth am wirionedd yr efengyl ar ein hol, fel y gallai lefaru er lles oesoedd i ddyfod. (c) Tybiaf, pe y gwelai Rhagluniaeth yn dda agor y ffordd, y dylid gosod ysgol i fynnu, er mwyn gweini rhyw gymaint o hyfforddiant i'r rhai sydd yn cynghori. Gallai ychydig o fisoedd ynddi,