uchaf o Sir Benfro. Gwel y darllenydd amryw gyfeiriadau ato yn nghofnodau Trefecca. Yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford penodwyd ef yn ymwelydd cyffredinol y seiadau (bands); mewn Cymdeithasfa ddilynol penderfynwyd ei fod i gadw ysgol yn Sir Benfro; a chyn diwedd y flwyddyn 1743 gosodwyd ef yn arolygwr y cymdeithasau bychain a gawsent eu ffurfio yn Sir Drefaldwyn. Yn Nghymdeithasfa Fisol Nantmel, Sir Faesyfed, Ebrill 18, 1744, pasiwyd ei fod i ymroddi yn hollol ac yn gwbl i'r gwaith o ymweled a'r holl eglwysi (yn Sir Drefaldwyn) unwaith bob wythnos. Ond mewn Cymdeithasfa arall, a gynhaliwyd Hydref yr un flwyddyn, penderfynwyd ei fod i fyned at y brawd John Richard i ddysgu y grefft o rwymo llyfrau.
Er fod Richard Tibbot wedi ymuno a'r Methodistiaid, ac yn llafurus yn eu mysg, eto teimlai gryn ymlyniad wrth yr Annibynwyr, ac ymgymysgai a hwy i raddau mawr. Creodd hyn ryw gymaint o ragfarn ato yn meddyliau y Methodistiaid, ac aethant i dybio ei fod yn fwy hoff o'r Ymneillduwyr nag o honynt hwy. A wnaed achwyniad cyhoeddus yn ei erbyn am hyn, nis gwyddom; ond deallai ef fod y cyfryw deimlad yn bodoli. Y mae llythyr o'i eiddo at Gymdeithasfa Hydref, 1745, ar gael yn Nhrefecca, yr hwn y teimlwn fod tegwch hanesyddol yn galw arnom i'w gyhoeddi. Yn ychwanegol, y mae yn ddyddorol ar gyfrif y goleu a dafla ar yspryd yr amseroedd, ac ar ansawdd meddwl Tibbot. Fel hyn y dywed: "Y mae gennym gynifer o faterion yn ein Cymdeithasfaoedd Chwarterol, fel mai ychydig o gyfleustra a feddwn i fynegu ein barn a'n profiad parthed amryw bethau, y byddai yn fuddiol i'n cynnydd a'n hundeb, a'n cariad brawdol, i ni ymdrin a hwy. Y mae yn ein mysg, hefyd, gynifer o wahanol syniadau am ddisgyblaeth (ffurflywodraeth?) eglwysig, fel yr ydym yn barod i ymrannu oddiwrth ein gilydd weithiau gyda golwg arnynt, fel y brodyr yn Sir Forganwg, yr hyn mewn rhan sydd yn oeri ein cariad, ac yn lleihau ein brawdgarwch, a'n hundeb. Gan fy mod yn fynych gyda'r Ymneillduwyr, ac yn eu cymdeithas yn aml, yr hyn a eill fod yn achlysur i chwi dybio fy mod yn cael fy arwain ganddynt, a'm bod yn wrthwynebus i chwi mewn tymer a barn, tybiais yn angenrheidiol wneyd datganiad o'm syniadau gyda golwg ar seiliau crefydd, pa mor bell yr wyf yn cydweled a chwi, a pha mor bell yr wyf yn cydweled a'r Ymneillduwyr.
"1. Dywedaf ychydig o'm meddwl, i ddechreu gyda golwg ar egwyddorion pwysicaf crefydd. Yma, fy mrodyr, rhaid i mi gyffesu fy nygn anwybodaeth; y mae fy nghalon wedi bod yn ddolurus er ys rhai blynyddoedd oblegyd fy anwybodaeth; ond hyderaf nad wyf yn gorphwys yn gyfangwbl ar gyffes. Nid wyf yn meddwl ei fod yn ddigonol sail i mi ddarfod i mi feddiannu nifer o resymau, a chael rhyw fath o oleuni oddifewn, a phrofi rhyw gymaint o nerth ac awdurdod yn fy ngorfodi i gredu rhyw egwyddorion; gwelaf y rhaid i mi gael goleuni oddiwrth yr Yspryd Glan i oleuo llygaid fy enaid, fel y gwelwyf weithrediadau ysprydol mor glir ag y gwelaf wrthddrychau naturiol yn ngoleuni yr haul, ac fel na byddo i mi newid fy marn gyda golwg arnynt yn nydd angau, yn nydd y farn, ac i dragywyddoldeb. Dyma y ffydd a'r wybodaeth a ddymunaf, ac yr wyf yn ocheneidio am na feddaf; am y wybodaeth hon yr ymgeisiaf, hyd nes y meddiannaf hi, yn llawn ac yn berffaith. Dyma fy ffydd a'm barn, fel yr wyf yn gweled yn bresennol, (a) Mai un Duw sydd; (b) Fod Tri Pherson yn y Duwdod, o'r un sylwedd, gallu, a gogoniant, sef y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan. (c) Ein bod oll wedi cwympo yn Adda, ac wrth naturiaeth yn blant digofaint. (d) Ddarfod i Dduw ethol rhyw nifer i fywyd tragywyddol cyn dechreuad y byd. (e) I Fab Duw ddyfod yn ddyn i waredu ei bobl etholedig. (f) Mai trwy ei ufudd-dod ef y cyfiawnheir ei bobl, ac mai trwy ffydd y deuant i feddiant o'i gyfiawnder. (g) Fod y ddeddf yn rheol bywyd i'r rhai sydd wedi eu cyfiawnhau trwy Grist. Cymaint a hynna am yr erthyglau.
"2. Mewn cysylltiad a disgyblaeth eglwysig, credaf ei fod yn oddefol i rai, mewn rhyw amgylchiadau, i bregethu, heb dderbyn awdurdod oddiwrth ddynion, fel yr arferwn ni yn awr; ac mai ein dyledswydd ni ac eraill, dan y fath amgylchiadau, yw disgwyl am arweiniad yr Arglwydd trwy ei Yspryd, canlyn rheol ei Air, gofalu na byddom yn gwneyd dim yn groes i'w Air ysgrifenedig, a chrefu am arweiniad Rhagluniaeth ac Yspryd Duw i ddyfod i drefn ragorach. Er mai ein dyledswydd yw bod yn drefnus, eto ni ddylai amryw drefniadau ein cadw rhag brawdgarwch, a chymdeithasu ag eraill,