Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nag arferol. Sylwai un o'i wrandawyr ei fod, wrth son am ddyoddefìadau yr Arglwydd Iesu, braidd fel be buasai yr ochr fewn i'r llen. Bu farw Mawrth 18, 1798, yn agos i bedwar ugain mlwydd oed. Pregethodd ei olynydd, y Parch. John Roberts, yn ei gladdedigaeth, oddiar y geiriau: "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddyw yn Israel?" Tystiolaeth pawb a'i hadwaenent oedd ei fod yn ddyn galluog, ac o alluoedd meddyliol cryfion; er nad oedd yn ymadroddus, nac o ddoniau dysglaer, yr oedd yn dduwinydd gwych; ac yr ydoedd yn un o heddychol ffyddloniaid Israel. Mewn cyfnod ag yr oedd rhagfarn grefyddol yn rhedeg yn uchel, a dallbleidiaeth yn ffynu, yr oedd Tibbot yn glynu wrth hanfodion yr efengyl, gan ddibrisio y man gwestiynau a wahanent y naill blaid oddiwrth y llall. Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig hyd y dydd hwn.

Cynghorwr arall yn Sir Drefaldwyn a haedda ein sylw yw Lewis Evan, Llanllugan. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at ei argyhoeddiad yn Nhrefeglwys, dan weinidogaeth Howell Harris, yn y flwyddyn 1740, a'i waith yn dechreu cynghori yn bur fuan gwedin, heb gael caniatad gan unrhyw lys, crefyddol na gwladol. Ymddengys iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1719, ac felly yr oedd yr un oed a Richard Tibbot. Gwehydd oedd wrth ei gelfyddyd; gweithiai gyda ei dad mewn lle o'r enw Crygnant. Peth dyeithr yn y wlad y pryd hwnw oedd fod gwehydd ieuanc yn myned o gwmpas o dŷ i dŷ, i ddarllen y Beibl, ac i weddïo, a chynghori; creodd ei ymddygiad gryn gyffro yn yr ardal; ac yn bur fuan deffrodd erledigaeth. Gwasanaethai dyn cryf o gorph yn Plashelyg, amaethdy rhwng cartref Lewis Evan a thy yr arferai gyrchu iddo i ddarllen; ymddengys fod y gweddïo a'r cynghori yn cythruddo gwas Plashelyg yn enbyd, a gwyliai Lewis Evan yn pasio, gan ei fygwth yn dost oni roddai heibio y gorchwyl. Hyn nis gwnai yntau, a'r diwedd a fu i'r adyn creulon ei guro yn dost, nes yr oedd y ffordd yn goch gan ei waed. Yr oll a atebodd i'w erlidiwr ydoedd: "Dywed i mi, fy machgen gwyn, pa beth a wnaethum i ti, gan dy fod yn fy nhrybaeddu fel hyn?"

Ceir cyfeiriadau mynych at Lewis Evan yn nghofnodau Trefecca. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn y Tyddyn, ger Llanidloes, Chwefror 17, 1743, rhoddwyd nifer o eglwysi Sir Drefaldwyn dan ei ofal ef, mewn undeb a Morgan Hughes, a Benjamin Cadman. Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Glanyrafonddu, yn mhen pythefnos gwedin, rhoddwyd cymdeithasau Llanllugan, a Llanwyddelan, yn gyfangwbl tan arolygiaeth Lewis Evan, tra y cafodd B. Cadman ei drefnu i ymweled a holl eglwysi y sir. Penderfynwyd mewn Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, Ionawr, 1744: "Fod y brawd Lewis Evan i fyned can belled ag y gallai, yn gyson a'r alwad a fyddai arno, i Sir Feirionydd." Yn adroddiad Richard Tibbot o ansawdd yr eglwysi yn Nhrefaldwyn, yn yr un flwyddyn, dywedir: "Y mae Lewis Evan, yr hwn sydd yn cynghori yn Llanllugan, yn cael ei arddel gan yr Arglwydd i fod yn ddefnyddiol i lawer; y mae amryw ddrysau yn cael eu hagor iddo, ac amryw wedi cael eu hargyhoeddu trwy ei athrawiaeth." Ymddengys ei fod yn bregethwr effeithiol, ac yn dra derbyniol gan y cymdeithasau tros yr holl wlad. Mewn llythyr oddiwrth un T. E., Tyddyn, dyddiedig Awst 1, 1746, at Harris, ceir a ganlyn: "Yr oedd y brawd Lewis, o Lanllugan, yma ychydig amser yn ol; crychneidiai calonau y saint o'u mewn tan ei ymadroddion. Syndod fel y mae yr Arglwydd yn peri i'r dyn hwn gynyddu mewn dawn a gras." Yn haf 1747, dywed Mr. T. Bowen, Tyddyn, mewn llythyr at Harris: " Y mae dyfodiad y brawd Lewis Evan atom wedi bod yn nodedig o adfywiol yn ddiweddar." Oddiwrth yr amrywiol dystiolaethau yma nis gellir amheu fod y cynghorwr diaddysg o Lanllugan yn meddu llawer o gymhwysderau pregethwrol, a'i fod yn cael ei fendithio gan ei Feistr i fod yn offeryn i achub pechaduriaid, ac i adeiladu y saint. Fel holl gymdeithasau a chynghorwyr Trefaldwyn, yn yr ymraniad gofidus rhwng Rowland a Harris, cymerodd Lewis Evan blaid y diweddaf, ei dad yn y ffydd, ac yr oedd yn bresenol yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd ganddo ef a'i bleidwyr yn St. Nicholas. Pan y penderfynwyd yno anfon nifer o gynghorwyr i Ogledd Cymru, er perswadio y seiadau mai Harris oedd yn gywir, a bod Rowland a'i ganlynwyr wedi colli eu gafael ar yr Arglwydd, yr oedd Lewis Evan, Llanllugan, yn un o'r anfonedigion. Dengys hyn yr ystyrid ef yn ddyn o ymddiried. Cawn ef yn bresenol yn Nghymdeithasfa yr Harrisiaid, a gynhaliwyd yn Dyserth,