Ion. 3, 1751, a darfu iddo, fel nifer o gynghorwyr eraill, ddatgan ar gyhoedd ei barodrwydd i gyflwyno ei hun a'r oll a feddai i'r Arglwydd. Penodwyd ef yno i fod yn un o'r rhai oeddynt i adael pob peth, ac i fyned o gwmpas yn wastadol, i wasanaethu yr achos. Yr oedd yn Nghymdeithasfa y blaid yn Nhrefecca, y Chwefror canlynol; yn Nghymdeithasfa Castellnedd, Ebrill 10, yr un flwyddyn; ac yn Nghymdeithasfa Llwynbongam, Gorph. 2, 1751, lle y gwnaeth, fel eraill, ail ddatganiad o'i ymroddiad i wasanaethu crefydd tan arweiniad Harris. Cafodd yr anrhydedd o bregethu hefyd yn y Gymdeithasfa hon. Y tro diweddaf y ceir ei enw yn y cysylltiad hwn yw yn Nghymdeithasfa Trefecca, Hydref 2, 1751. Anogid y brodyr yno gan Harris i adrodd eu teimladau yn rhydd; yr ail i agor ei enau oedd Lewis Evan; dywedai ef ei fod yn teimlo angenrhaid arno, ddydd a nos, i fyned at yr Iesu croeshoeliedig, ac i weithio drosto. Eithr yn raddol darfu i dra-awdurdod cynyddol Howell Harris, a'i waith yn cyfyngu yn bennaf ei lafur i Drefecca, beri i Lewis Evan, fel nifer o gynghorwyr eraill, droi ei gefn arno, ac ail ymuno a'r Methodistiaid dan dywysiad Daniel Rowland,
Ni ddyoddefodd neb yn yr oes honno fwy dros yr efengyl na Lewis Evan; darllena ei beryglon, ei ddyoddefaint, a'i waredigaethau fel rhamant. [1] Pan y teithiai unwaith yn Nyffryn Clwyd, yr oedd dau ddyn yn sefyll yn ymyl pont yn ei ddisgwyl, gyda phastynau mawrion yn eu dwylaw; a chan un o honynt tarawyd ef ar ei ben, nes yr oedd ei waed yn ffrydio. Ni wyddai efe, oblegyd y syfrdandod a achosid gan y ddyrnod, fod ei waed yn llifo, nes i ryw wraig ei gyfarfod, a gofyn iddo yn gyffrous: "Yn enw'r mawredd, beth yw y drefn yna sydd arnoch?" Fel yr oedd, cyrhaeddodd dŷ un o'i gyfeillion, lle y cafodd olchi ei friwiau, a phob ymgeledd. Dro arall, pan yn cynghori yn Darowain, nid yn nepell o Fachynlleth, daeth tua thriugain o ddihyrwyr o'r dref i aflonyddu arno, gan lawn fwriadu ei niweidio. Gan eu bod yn rhy ffyrnig i ymresymu a hwynt, ac yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, nid oedd dim i'w wneyd ond ffoi, a ffoi a wnaeth. Gan ei fod yn ysgafn o gorph, ac yn chwimwth ar ei droed, nid oedd heb obaith dianc. Wrth redeg, syrthiodd i ffos ddofn, a ddigwyddodd fod yn sych ar y pryd; daeth i'w feddwl y gallai y ffos fod yn ymguddfa iddo. Ynddi y llechodd nes yr aeth yr erlidwyr heibio, ac felly y dihangodd o'u crafangau,
Pan yn pregethu yn y Bala un Sabboth, anfonodd bonheddwr, oedd hefyd yn heddynad, swyddogion i'w ddal, ac i'w ddwyn ger ei fron. Galwyd Lewis Evan i'r parlwr, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng y ddau: Ynad. " Ai ti a fu yn pregethu yn y Bala? "
Lewis Evan. " Ië, Syr, myfi fu yn rhoddi gair o gyngor i'r bobl."
Ynad. " O ba le yr wyt yn dod, a pheth yw dy orchwyl pan fyddi gartref? "
L. E. " O Sir Drefaldwyn, o blwyf Llanllugan, yr wyf yn dod, a gwehydd wyf wrth fy ngalwedigaeth."
Ynad. " Beth a ddaeth a thi y ffordd hon? Ai nid oedd gennyt ddigon o waith gartref? "
L. E. " Oedd, digon; ond mi ddaethum yma i roddi gair o gyngor i'm cydbechaduriaid."
Ynad. " Nid oes yma ddim o dy eisiau. Y mae gennym ni bersoniaid wedi cael addysg dda, ac wedi cael eu dwyn i fyny trwy draul fawr yn Rhydychain, i bregethu i ni."
L. E. " Y mae digon o waith iddynt hwy a minnau. Y mae y bobl yn myned yn lluoedd tua dystryw er y cyfan."
Ynad. " Mi a'th anfonaf i'r carchar am dy waith."
L. E. " Bu fy ngwell i yn y carchar o'm blaen. Carcharwyd yr Arglwydd Iesu ei hun, er iddo ddyfod i'r byd i gadw pechaduriaid." Gyda hyn, dywedai y gwehydd air yn mhellach am yr Arglwydd Iesu, ac am ei amcan goruchel yn dyfod i'r byd; ond yr ynad a'i lluddiodd, gan ofyn: "
A wyt ti yn meddwl pregethu yn fy mharlwr i?"
"Nid wyf yn meddwl, Syr," oedd yr ateb, "fod eich parlwr chwi yn rhy dda i ddywedyd am Iesu Grist ynddo."
Gwelai yr ynad nad oedd fawr tebygolrwydd yr enillai lawer ar y pregethwr trwy ymddiddan o'r fath; felly, anfonodd ef i garchar Dolgellau, lle y bu y gwehydd tlawd am yspaid hanner blwyddyn. Eithr aeth cyfeillion yr efengyl i chwilio i mewn i'r helynt, a chawsant fod y prawf a'r ddedfryd yn afreolaidd, a bod y bonheddwr a'i traddododd, yn ôl pob tebyg, wedi gosod ei hun yn ngafael y gyfraith trwy yr