amryfusedd a gyflawnasai. Deallodd yr ynad hynny yn ogystal, a bod cyfeillion Lewis Evan yn bwriadu cael ymchwiliad i'r helynt. Brysiodd i Ddolgellau, ac i'r carchar at Lewis Evan, lle y cymerodd yr ymddiddan a ganlyn le:-
Ynad. " Wel, Lewis, ai yma yr wyt ti eto? "
L. E. " Ië, Syr, dyma lle yr wyf."
Ynad. "Mae yn debyg mai yma y byddi di byth."
L, E. "Na, ni fyddaf fi na chwithau yma byth."
Ynad. "Pe y rhoddit ychydig arian, mi a allwn dy gael allan."
L. E. "Yn wir, Syr, chwi a ddylech fy nghael allan am ddim, gan fod genych law fawr yn fy rhoddi i mewn."
Ynad. "Dywed i mi, a oes llawer o honnoch?"
L. E. "Oes, Syr, y mae llawer o honom, ac fe fydd mwy o lawer eto yn mhen ychydig amser."
Ynad. "Yn nghrog y bo'ch chwi wrth yr un gangen."
L. E. "O! Syr, chwi fyddwch chwi wedi hen bydru cyn hynny."
Afreidiol ychwanegu ddarfod gollwng Lewis Evan yn rhydd yn ebrwydd, ac heb ddim costau. Mewn canlyniad, gadawyd yr ynad yn llonydd, ond rhoddwyd ar ddeall iddo y cedwid llygad arno o hyny allan, ac na oddefid iddo gyflawni y fath gamwri mwy.
Meddai Lewis Evan lawer o ffraethder a pharodrwydd ymadrodd yn nghanol diniweidrwydd diddichell. Dringasai ef a Mr. Foulkes, Machynlleth, i ben yr Wyddfa unwaith; ac wedi cyrhaedd ei gopa tynnai Mr. Foulkes ei het, a dywedai: "Beth pe yr aem ychydig i weddi?" "Da iawn, Mr. Foulkes,"oedd yr ateb; "gwnewch ar bob cyfrif, daliwch afael ar y cyfleustra, oblegyd ni fuoch mor agos i'r nefoedd erioed o'r blaen." Rhaid i ni ymatal, onide gallem groniclo llu o hanesion am dano. Dyn bychan ydoedd, bywiog ei ysgogiadau, cyflym ei leferydd, a pharod ei ymadrodd. Ni ystyrid ef yn bregethwr mawr, ond bu yn dra defnyddiol. Daliai afael ar bob cyfle i gynghori. Yr oedd rhyw adnod o'r Beibl, neu air o addysg, ar ei wefus yn wastad. Cyffelybid ef i ysgol symudol, gan mor ddyfal yr oedd yn cyfrannu gwybodaeth am Dduw, a chyflwr colledig dyn, i'r rhai a gyfarfyddai. Bu farw yn y flwyddyn 1792, yn 72 mlwydd oed, ac yn ddiau aeth i dangnefedd. Canodd nai iddo farwnad ar ei ôl, ond nis gallwn ei chofnodi o ddiffyg lle.
Cynghorwr arall, o gryn enwogrwydd, oedd Herbert Jenkins. Cawsai ei eni yn mhlwyf Mynyddislwyn, Sir Fynwy, yn y flwyddyn 1721. Ymddengys fod ei rieni yn ddynion crefyddol, ac mewn amgylchiadau cysurus, a rhoisant addysg dda i'w mab. Bu am ryw gymaint o amser yn yr ysgol yn Mryste, gyda Mr. Bernard Fosket, athraw athrofa y Bedyddwyr. Yn ôl pob tebyg, argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howell Harris, ac yn bur fuan dechreuodd lefaru am Grist wrth ei gyd-bechaduriaid. Gan y medrai bregethu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'i fod o ddawn poblogaidd, daeth galwad mawr am ei wasanaeth. Yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford, ei enw ef a geir y blaenaf ar restr y cynghorwyr a dderbyniwyd i undeb y Gymdeithasfa. Ei enw ef hefyd yw y cyntaf ar restr y cynghorwyr presennol yn yr ail Gymdeithasfa; a phan y dosrennid y wlad tan arolygiaeth cynghorwyr, ni roddwyd adran i Herbert Jenkins, eithr trefnwyd iddo i fod yn gynorthwywr i Howell Harris, ac i'r brodyr Saesnig. Amlwg felly yr ystyrid ef mewn rhai pethau yn rhagori ar ei gyd-gynghorwyr. Dywedir iddo gael yr apwyntiad gwedi i Howell Harris ei glywed yn pregethu yn ardderchog, ar ddirgelwch Duwdod y Gwaredwr. Pa mor uchel y syniai Harris am dano a welir oddiwrth lythyr o'i eiddo at Whitefield, Chwefror 12, 1743. Meddai: "Y mae yr Arglwydd yn bendithio y brawd Herbert Jenkins yn fawr. Gwelais ef yr wythnos hon, ar ei ddychweliad o Siroedd Penfro, Morganwg, a Chaerfyrddin. Y mae yn cael ei arddel, a'i hoffi; ac y mae galw cyffredinol am dano; ac oni fydd ei alwad i swydd Wilts yn bur eglur, nid wyf yn meddwl y dylai fyned, oddieithr yn achlysurol, yn enwedig gan fod y brawd Adams yn dyfod yn mlaen mor ddymunol.
Ymddengys, modd bynnag, mai llefau y brodyr Saesnig a orfu, oblegyd yn eu mysg hwy y treuliodd Herbert Jenkins y rhan fwyaf o weddill ei oes. Yn Hanes Bywyd yr Iarlles Huntington, dywedir iddo ymuno a chymdeithas Mr. Wesley yn 1743, ac iddo deithio yn y cyfundeb hwnnw am rai blynyddau gyda dyhëwyd a llwyddiant; ei fod yn bresennol yn ail gynhadledd y Wesleyaid, a gynhaliwyd yn Mryste yn 1745, ac y ceir ei enw yn olaf ar restr y pregethwyr teithiol. Ond nid yw yn