Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

——————————

PHOTOGRAPH O DUDALEN O YSTADEGAU DR. JOHN EVANS.

——————————

adeg hono yn anmhosibl; ac naill ai fod dychryn yr ysgrifenydd yn peri iddo weled y rhif yn fwy nag ydoedd, neu ynte ei fod yn wirfoddol yn cam-arwain yr Archesgob. Sylwer eto ar ystadegau Dr. John Evans, a gasglwyd tua'r flwyddyn 1715. Yn ol y llawysgrif, rhoddwyd y cyfrif am Sir Fynwy gan Mr. Joseph Stennett o'r Fenni, mewn llythyr at Mr. Henry Bendish; ac am Ddê a Gogledd Cymru gan Mr. Charles Lloyd, Brycheiniog, trwy Mr. Barrington. Rhydd hon rifedi yr Ymneillduwyr yn Nghymru yr adeg yma yn ugain mil. Nid ydym yn gwybod i ba raddau y gellir ymddiried yn yr ystadegau hyn ychwaith. Diau y gwnaed a ellid i arddangos y cynulleidfaoedd Ymneullduol mor lliosog, a'r personau a berthynai iddynt mor gyfrifol a pharchus, ag oedd modd; oblegyd amcan yr ystadegau oedd dangos i'r Toriaid a geisient adfywio y cyfreithiau erlidgar, ac hefyd i'r Whigiaid yn y rhai y gobeithid, pa mor gryf oedd Ymneillduaeth trwy y deyrnas, ac na ellid ymosod arni yn ddiberygl. Gan hyny, y mae yn sicr na chyfrifwyd y gwahanol gynulleidfaoedd yn llai nag oeddynt. Caria yr ystadegau ar eu gwyneb amddifadrwydd o fanylwch. Crynhoir amryw eglwysi ynghyd; wedi enwi dwy neu dair, cawn yn fynych " &c.," yn dynodi fod cyfrif eglwysi eraill, na roddir eu henwau, yn cael ei osod i mewn; ceir un eglwys a chynulleidfa weithiau yn cael eu harddangos fel yn wasgaredig tros wlad deugain milltir o hyd wrth ugain o