Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

led; yr hyn sydd yn profi yn eglur mai cyfrif bys a bawd a roddir, ac nas gellir ymddiried nemawr ynddo. Am rai o'r ffugrau gwelir yn amlwg wrth ystyried poblogaeth y wlad yr adeg hono y rhaid eu bod yn gyfeiliornus. Er enghraifft, rhoddir cynulleidfaoedd Llanafan a Llanwrtyd, cymydogaethau anghysbell yn nghanol mynyddoedd Brycheiniog, fel yn rhifo wyth cant. Y mae yn amheus a gynwysai yr adran yma o'r wlad gynifer a hyny o drigolion yr adeg hono, hyd yn nod pe y cyfrifid y babanod ar y fron. Pa fodd bynag, proffesa yr ystadegau roddi holl nerth Ymneillduaeth, mewn rhifedi, cyfoeth, ac urddas sefyllfa. Oni wnaent hyny, ni chyrhaeddent yr amcan mewn golwg; yn wir, gellid eu defnyddio fel arfau ymosodol gan y gelynion. Heblaw rhif y gwrandawyr, rhoddir eu safle gymdeithasol, gan nodi yn fanwl rifedi y boneddwyr, ynghyd a'r rhai a berchenogent bleidlais yn eu mysg, fel y gwelir oddiwrth y fac simile (tudal. 15).

Buasai yn dda genym pe y gallasem adael yn y fan hon ystadegau Dr. John Evans, ynghyd a'r cofnodiad o honynt gan y Parch. Thomas Rees, D.D., ond ni feiddiwn; y mae ffyddlondeb i wirionedd, ynghyd a pharch i goffadwriaeth y Tadau Methodistaidd yn ein gorfodi i fyned yn mlaen, i ddynoethi y twyll dybrid sydd wedi cael ei arfer. Cofnoda Dr. Rees yr ystadegau, fel y maent yn y llawysgrif, yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales; a phroffesa wneyd hyny yn llawn, air am air, ffugr am ffugr, a llythyren am lythyren. A darfu iddo wneyd hyny yn gywir gydag un eithriad. Ond y mae yr un eithriad hwnw mor bwysig fel y mae yn gwneyd yr oll o'r ystadegau yn gamarweiniol. Penawd y bumed golofn yn llawysgrif Dr John Evans yw "rhif y gwrandawyr " (number of hearers); ac amlwg yw, fel y darfu i ni sylwi, y cyfrifid pawb y gellid mewn unrhyw ffordd edrych arnynt fel yn perthyn i gynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr. Ond y mae Dr. Rees yn rhyfygus, ac heb awgrymu ei fod yn gwyro oddiwrth y gwreiddiol, wedi newid y penawd i "canolrif y rhai presenol " (average attendance)[1] Gwel y cyfarwydd ar unwaith pa mor bwysig yw y newidiad hwn. Rhifai Dr. John Evans bawb a wrandawent gyda'r Ymneillduwyr, er na fyddent oll yn bresenol hyd yn nod pan fyddai y gynulleidfa fwyaf; ond ystyr "canolrif y gwrandawyr " yw nifer y rhai presenol pan na fydd y gynulleidfa nac yn fach nac yn fawr. Gwyddai Dr. Rees yn dda ei fod yn gwyrdroi y cyfrif, er gwneyd rhif yr Ymneillduwyr yn ddwbl yr hyn ydoedd, oblegyd y mae yn eglur ei fod wedi astudio y llawysgrif yn fanwl; wrth ei ddarllen daeth drachefn a thrachefn ar draws y penawd "rhif y gwrandawyr," fel yr oedd yn anmhosibl i'r gwall ddigwydd mewn camgymeriad. Yn wir, galwodd y Parch W. Williams,[2] Abertawe, sylw cyhoeddus ato; a chawn Dr. Rees yn y rhagymadrodd i'r ail argraffiad, yn ceisio ateb Mr. Williams ynglyn a rhai pethau, ond gadawa y mater pwysig hwn, sydd yn cyffwrdd a'i gymeriad fel hanesydd geirwir, heb ei gyffwrdd; yn hytrach, gesyd y daflen a lyrguniodd i mewn yn ei lyfr fel yn yr argraffìad cyntaf. Gwyddai Dr. Rees yn drwyadl pa mor bwysig a pheth oedd ystyr y cyfnewidiad a wnelai yn y penawd, oblegyd brysia i fanteisio ar y camwri a gyflawnodd, trwy ddweyd nad yw [3] canolrif y presenolion un amser yn fwy na haner rhif y gwrandawyr; felly y rhaid fod nifer yr Ymneillduwyr yn Nghymru pan wnaed y cyfrifiad yn ddwbl yr hyn a geir yn y daflen, ac nas gallent fod yn llai na haner can mil, sef tuag un rhan o wyth o'r holl drigolion. Y mae yn wir ofidus fod gweinidog yr efengyl o safle barchus, ac un a ystyrid yn gyffredin yn hanesydd gofalus, wedi ymostwng i gyflawni gweithred anonest, yr hon yn ddiddadl a fwriedid i gamarwain. Y mae ein gofid yn fwy pan y cofiwn ei fod yn seilio yn benaf ar y twyll hwn ei gyhuddiad yn erbyn y Tadau Methodistaidd, sef ddarfod iddynt yn fwriadol gamddarlunio sefyllfa Cymru ar y pryd o ddirmyg at yr Ymneullduwyr, ac er mwyn tra-ddyrchafu eu gwaith eu hunain. Dyma enghraifft fyw o ddyn a thrawst yn ei lygad yn ceisio tynu brycheuyn allan o lygad ei frawd. Profa yr ymddygiad hwn o'i eiddo nas gellir rhestru Dr. Rees mwy yn mhlith haneswyr credadwy; o leiaf mewn amgylchiadau ag a fyddo yn tueddu i ddeffro ei ragfarnau enwadol. Yn ol ystadegau Dr. John

Evans, yr oedd rhifedi yr Ymneullduwyr

  1. History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 259
  2. Welsh Calvanistic Methodism
  3. History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 226