Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/300

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhedais i fynu y grisiau, a syrthiais gerbron yr Arglwydd. Ond am ychydig amser yr oeddwn wedi fy ngadael, fel nas gallwn weddïo, na thynu yn agos at Dduw. Yr oeddwn yn ymroddedig, ond gan fy mod wedi suddo i afael hunan ni theimlwn y nerth a'r bywyd a arferwn deimlo. Yr oeddwn mewn llyfethair gan ofn slafaidd, fel nas gallwn fod yn hyf. Cawswn fy narostwng fel petrysen; yr oedd y gelyn gerllaw; teimlwn y cnawd yn dychrynu rhag i'r tŷ o glai gael ei ddatod trwy ergyd ar fy mhen. Yn raddol, pa fodd bynag, daethum gymaint ataf fy hun fel ag i fyned i lawr at y gweithwyr." Yr oedd y gweithwyr hyn yn parotoi y tŷ yn Nhrefecca, a gawsai yn rhodd gan ei frawd Joseph, ar gyfer ei ddarpar-wraig ag yntau. Hawdd gweled ddarfod i ffydd Howell Harris ballu am enyd; y mae y cadarn, nad ofnai holl luoedd y fall, yn gwanychu am ychydig, nes dyfod fel gŵr arall. Nid ysgrifenu hanes dyn perffaith yr ydym, ond dyn duwiol, a'i ras ambell dro yn myned dan gwmwl. Ond nid yw y cwbl wedi ei adrodd eto. Rhag ofn i'r ustus a'r cwnstab ddychwelyd a'i gymeryd yntau, dihangodd i gyfeiriad Tynycwm, yn Sir Faesyfed. Mewn difrif, ai dyma Howell Harris! Nid rhyfedd ei fod yn croniclo ar y ffordd, ei fod o hyd mewn caethiwed, a'i fod yn gwaeddi: "O fy ngwendid!" Ond meddai, drachefn: "Y mae yr Arglwydd yn fy adwaen." Ni pharhaodd y ffit o ddigalondid yn hir, pa fodd bynag. "Llanwyd fy enaid à nerth," meddai; "gwelwn nad oedd fy mywyd, pe ei collwn ddeng mil o weithiau, yn ddim yn ymyl ei ogoniant ef. Gwelwn fy holl elynion fel dim." Aeth yn ei flaen i'r Ysgrin, i gysuro a gwroli Miss Williams, ar gyfer y prawf oedd o'i blaen, a thranoeth dychwelodd i Drefecca, i aros y canlyniadau, beth bynag a fyddent.

Dydd Iau, Mai 11, yr oedd ystad ei feddwl yn ogoneddus. Gwelais," meddai, "nad yw fy nghorph yn eiddof fi, ond eiddo yr Arglwydd. Gwell genyf ddisgyn i uffern filiwn o weithiau trosodd, na rhoddi lle am eiliad i syniad anfoddog, iddo ef lywodraethu fy enaid, a gwneyd â mi fel y mae yn ewyllysio, hyd yn nod pe bai iddo fy nifodi, neu osod cospedigaeth dragywyddol arnaf. Gan fy mod wedi cael fy mhrynu ganddo, ai ni chaiff wneyd à mi fel yr ewyllysia? Clywais heddyw drachefn a thrachefn y byddwn yn sicr o gael fy nghymeryd yfory, a bod yr holl ynadon yn llidiog yn fy erbyn, yn arbenig o herwydd fy mhriodas." Tranoeth i'r dydd yr ysgrifena yr oedd y Gymdeithasfa Fisol i gael ei chynal yn Nhrefecca; ac ymddengys ddarfod i'r erlidwyr benderfynu rhoddi y warant mewn grym pan fyddai Harris yn anerch y cyfarfod cyhoeddus, er mwyn gyru ofn ar bawb, ac yn neillduol ar y cynghorwyr fyddai wedi ymgynull o wahanol barthau y wlad. Ond yr oedd gŵr Duw yn hollol ddiofn.

"Cefais y fath olwg ar Dduw fel uwchlaw iddynt oll, a'r fath sicrwydd y gwnai roddi i mi ddrws agored nas dichon neb ei gau," meddai, "fel yr edrychwn ar fy ngwrthwynebwyr fel gwybed a gwagedd." Ni adawodd ei Arglwydd ef heb gysuron yn y cythrwfl hwn. Daeth un brawd yr holl ffordd o Gastellnedd er ceisio sirioli ei yspryd. Dygodd un arall y newydd iddo fod Maer Bryste wedi cyhoeddi na wnai ddanfon yr un o'r Methodistiaid i'r rhyfel. "Toddodd hyn fy nghalon yn llymaid," meddai; "gwelwn fod Duw o hyd yn ymddangos o'n plaid. Y mae llawer yn fy nghynghori i beidio llefaru yfory, gan fy mod yn sicr o gael fy nghymeryd; ond gwelaf mai fy nyledswydd yw myned yn y blaen gyda'r gwaith, a'm bod yn cael fy ngalw i ddyoddef ynddo. Llenwir fi yn fynych a llawenydd wrth weled fod fy nyoddefaint gerllaw; bryd arall yr wyf yn ofni ac yn crynu yn yr olwg ar Dduw, ac ar eu cynddaredd a'u llid hwy, yr hyn sydd wialen Duw, yn cael ei chymhwyso ganddo at ein cnawd; y mae yn myned fel brath cleddyf trwodd. Ond drachefn, gyda phob croes, yr wyf yn cael rhyw gymaint o ychwanegiad nerth i'r dyn newydd, a rhyw gymaint o hunan a natur yn cael ei gymeryd ymaith."

Dydd Gwener oedd y diwrnod i osod y warant mewn grym, pan fyddai y Gymdeithasfa wedi ymgynull. Cyfododd Harris yn siriol ei yspryd; gwelai Dduw yn eistedd ar y llifeiriant. "Ysgrifenais fy nydd-lyfr," meddai; "trefnais fy holl angylchiadau ar gyfer fy ngharchariad ; ac yr oeddwn yn hapus a dedwydd. Cadwyd fi rhag edrych am amddiffyn cnawdol gallwn ddianc pe yr ewyllysiwn; ond gwelwn mai fy nyledswydd oedd sefyll." I'r cyfarfod yr aeth, i sefyll i fynu dros ei Dduw. Cyn myned, gweddïai dros ei fam, na ddiffygiai ei ffydd. Bu yn y cyfarfod preifat gyda'r cynghorwyr hyd gwedi un, yna aeth i'r odfa gyhoeddus. Daeth torf fawr yn nghyd; cafodd yntau nerth anghyffredin wrth lefaru. Ei fater