oedd y tŷ ar y tywod, a'r tŷ ar y graig. Cyn terfynu, agorodd ei galon i'r bobl; dywedai ei fod yn barod i ddyoddef, ac mai cariad at Dduw ac at eu heneidiau hwy a'u dygasai yno y dydd hwnw. Rywsut, ni roddwyd y warant mewn grym. Ai nerth y geiriau a lefarai gŵr Duw a wanhaodd freichiau yr erlidwyr; ynte a oedd arnynt fraw i afaelu mewn dyn mor enwog a Howell Harris, yr hwn a feddai eiddo rhydd—ddaliol, ac a noddid gan rai o brif bendefigion y deyrnas, nis gwyddom. Ond gofalodd Duw am ei was; diarfogodd yr erlidwyr mor effeithiol ag y cauodd safnau y llewod yn y ffau gynt.
Bychan oedd y Gymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca; nid oedd yr un o'r tri offeiriad yn bresenol, ac ond dau o'r arolygwyr, sef Morgan John Lewis, a Thomas James; efallai fod yr erledigaeth wedi cadw y gweddill i ffwrdd. Daethai, modd bynag, nifer da o gynghorwyr yn nghyd. Y prif benderfyniadau a basiwyd ydynt a ganlyn:—
"Rhoddasom ein barn i'r brawd Walter Hill, gyda golwg ar ei betrusder i dderbyn y sacrament gydag offeiriaid cnawdol, &c.; y dylem am y presenol, hyd nes y byddo i ni gael ein troi allan, neu i ddiwygiad gael ei ddwyn i mewn, oddef a chyd-ddwyn er mwyn y gwaith.
"Cydunwyd fod i'r brawd John Williams, fel y cynghorwyr anghyoedd eraill, beidio aros yn sefydlog i arolygu yr un seiadau, ond i gael ei anfon draw ac yma, yn ol doethineb yr arolygwr, fel y byddo efe yn canfod fod ei ddawn a chyflwr y bobl yn galw.
"Fod y brawd Thomas Jones i gyflogi ei hun gyda John Richard, ac i fod fel o'r blaen hyd y Gymdeithasfa gyffredinol nesaf, gan ymweled a Sir Faesyfed unwaith y mis.
"Wedi cryn ymgynghoriad parthed priodas y brawd Morgan John Lewis, cawsom ryddid i gydweled a'r peth.
"Cydunwyd fod i fater priodas y brawd Edward Bowen i gael ei benderfynu gan y brodyr Thomas James a Thomas Bowen, ar ol ymgynghori â'r seiadau y mae efe a hithau yn perthyn iddynt.
"Fod y brawd Walter Hill i fyned i wasanaeth y brawd William Evans, a bod Mr. Roberts i gael ysgrifenu ato, i ddymuno arno ei ollwng; a bod y brodyr i gael ymddiddan â hwy, fel y byddo iddynt ryddhau y brawd Evans o ran o'i gyflog.
"Fod y brawd William Evans i gyflwyno ei hun yn hollol i'r gwaith, mor bell ag y byddo hyny yn gyson â'i ofalon teuluaidd, a'i fod i arolygu yr holl seiadau sydd dan y brawd Beaumont yn ystod ei absenoldeb ef (Beaumont) yn Llundain, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Thomas James.
"Ein bod oll, yn ystod yr amser profedigaethus hwn, i arfer diwydrwydd dyblyg, ac i ymdrechu gyda chateceisio yn ein teuluoedd.
Meddyliem nad oedd bwriad y brawd Thomas i briodi o'r Arglwydd."
Yn mhen tri diwrnod wedi Cymdeithasfa Fisol Trefecca, sef Mai 15, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Brynbychan. Daeth lliaws yn nghyd yno, ac yn eu mysg Daniel Rowland, yr hwn a lywyddai, Williams, Pantycelyn, y Parch. Benjamin Thomas, Richard Tibbot, &c. Aeth Howell Harris tuag yno trwy gantref Buallt, gan lefaru mewn amrywiol fanau ar y ffordd. Am 10 o'r gloch, boreu y Gymdeithasfa, pregethai Daniel Rowland yn nghapel Eglwysig Abergorlech, tua phedair milltir o Brynbychan. Ei destun oedd, Salm ii. 6, a chafodd odfa hynod. Dangosai pa mor ddyogel oedd eglwys Dduw, mor anmhosibl oedd ei gorchfygu, er cymaint o lid a fodolai yn erbyn Crist. Gorphenodd trwy alw ar holl blant Duw i fuddugoliaethu mewn gobaith, ac i beidio cael eu cyffroi wrth glywed son am ryfeloedd, &c., gan fod ein Cesar (Crist) yn fyw. "Nid yn unig y mae yn fyw," meddai y pregethwr, "ond y mae yn teyrnasu. Gorfoleddwch; y mae Crist yn teyrnasu!" Gwaeddai enaid Harris oddifewn wrth wrando: " Gogoniant i Grist!" Yr oedd yn odfa ryfedd. A phan y gweddïai y pregethwr ar y diwedd dros bob dosparth o ddynion, ac yn eu mysg dros y brenhin, llewyrchodd goleuni anarferol ar y gynulleidfa. Meddai Harris: "Bendigai fy enaid Dduw am yr anwyl Rowland; am y dawn, y nerth, y ddoethineb, y gwroldeb, a'r awdurdod a roddodd iddo; a theimlwn yn foddlawn bod heb ddim (dawn) er mwyn iddynt hwy flaguro er gogoniant Duw." Cyrhaeddasant Brynbychan yn y prydnawn; am bump cyfarfyddodd y Gymdeithasfa, a buont yn cydeistedd hyd ddeg yn yr hwyr. Teimlai Harris yn bur sål, ond agorodd Duw ei enau i anerch y brodyr, gyda golwg ar natur gostyngeiddrwydd, ac yspryd drylliedig, ac ymgydnabyddiaeth â Duw. Cafodd y fath olwg yn y cyfarfod ar nerth y gelynion, mawredd y gwaith, ei