ein caru. Yn nesaf, wedi creu ynom, o leiaf yn rhai o honom, ddymuniad am fod yn un, a than ddylanwad y dymuniad hwn i dywallt ein calonau gerbron yr Arglwydd, efe a symudodd ein rhagfarnau allan o'n hysprydoedd, gan roddi i ni ffydd y byddai iddo eto drugarhau wrthym, a'n huno yn ei wirionedd, er mor annhebyg yr ymddangosai hyny. Yna, wrth agor ein calonau i'n gilydd, y gorchudd a'n cadwai rhag deall ein gilydd o'r blaen a gymerwyd ymaith, a chawsom fod ein camddealltwriaethau a'n gwahaniaethau yn cyfodi o gamgymeryd geiriau ein gilydd. Óblegyd gyda golwg ar gyfiawnhad a sancteiddhad, a ffydd achubol, golygem yr un peth, er y gwahaniaethem yn ein dull o egluro yr un gwirionedd. Fel y gwelwch, yr wyf yn credu, yn nghofnodau ein cytundeb, yr oedd y brawd Cennick wedi bod yn anwyliadwrus yn rhai o'i ymadroddion, yn ngwres ei zêl, ac oddiar ddymuniad difrifol am ddyrchafu y Duw-ddyn, yr Emmanuel gogoneddus; ac wrth ddifodi y gau noddfeydd sydd yn cadw cynifer heb ddyfod i fyw mewn ffydd wirioneddol ar y gwaed a'r clwyfau, darfu i'r gelyn ei wthio fel y llithrodd ryw gymaint wrth lefaru, ac y dyrysodd rai o'r bobl a wrandawent, fel ag i'w gamgymeryd yn y ddau eithafion. Yr oedd rhai o'r dynion ieuainc, mi a gredaf, yn fwy beius fyth. Ond ar bob llaw, yr wyf yn gobeithio ein bod wedi cael ein darostwng, a'n dwyn yn agosach at ein Meistr tyner a thosturiol."
Nis gallwn fanylu ar gynwys y llythyr, er fod ynddo amryw bethau yn haeddu sylw. Treuliodd Howell Harris ei Sabbath yn Bath, a dychwelodd adref erbyn dydd Iau, Mawrth 29, fel ag i fod yn bresenol yn y Gymdeithasfa Fisol, yn Nhrefecca. Cyfarfyddai ei frodyr gyda chalon lawen, oblegyd fod pethau wedi troi allan gystal yn Mryste; ac eto yr oedd pob llwyddiant gyda'r gwaith yn ei ddarostwng, ac yn ei lenwi a gostyngeiddrwydd. Fel hyn yr ysgrifena: "Yr oedd ein cyfarfod yn llwythog o newyddion da. Wrth weddi tynwyd fi allan yn hynod, a llewyrchodd yr Arglwydd ei wyneb arnom, gan wresogi ein calonau. Wrth fy mod yn gosod o'u blaen y cynygiad o Scotland, am gadw diwrnod bob tri mis, a phob boreu Sul, i ddiolch i'r Arglwydd am yr adfywiad diweddar yn Lloegr, a Chymru, ac America; cynygiad a pha un y darfu i'r brodyr gyduno, cefais nerth i weled nad oedd hyn yn perthyn i neb yn fwy na mi. Yn (1) Nid oes neb wedi cael ei ffafrio yn gymaint a mi, y gwaethaf a'r annheilyngaf o bawb. (2) Nid oes neb wedi digio a themtio yr Arglwydd fel myfi, ac felly nid oes ar neb gymaint o rwymau i'w ganmol, ac i ymostwng ger ei fron. (3) Nid oes ar neb gymaint o rwymedigaeth i ddymuno am lwyddiant y gwaith. Llefais am gael fy ngwneyd yn gydwybodol yn hyn. Gwedi ymholi am ansawdd y cymdeithasau, ac am y dull y cedwid y dyddiau o ymostyngiad, ymadawsom yn hyfryd ein hysprydoedd."
Yn nghofnodau Trefecca ceir yr adroddiad a ganlyn:
"Cymdeithasfa Trefecca, Mawrth 29'; Howell Harris, cymedrolwr Wedi adrodd ddarfod i'r Arglwydd wrando ein gweddïau parthed uno y brodyr yn Lloegr, trefnwyd ein Cymdeithasfa Fisol nesaf i fod yn nhŷ Thomas James, dydd Gwener, Ebrill 26.
"Gan fod cynygiad wedi dyfod o Scotland i gadw diwrnod bob tri mis, gan ddechreu gyda Thachwedd 1, yn ddydd o weddiau, am ddwy flynedd, ac hefyd i gyfarfod bob boreu Sul, oblegyd y gwaith diweddar yn Lloegr, Cymru, Scotland, ac America, i ddiolch i Dduw am dano, i weddïo am iddo fyned yn mlaen, ac i ymostwng oblegyd y pechod oedd yn cydfyned ag ef; cydunasom â'r cynygiad i gadw y dydd cyntaf o Fai nesaf, a phob boreu Sul, gyda chynifer ag a allwn gael. Ac hefyd yn breifat, i roddi i hyn gymaint o le ag a allwn yn ein calonau, a'n hamser, bob nos Sadwrn, ac i gymhell hyn ar eraill."
Y dydd Mercher a Iau canlynol, sef yr wythnos gyntaf yn Ebrill, cynelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Nghayo; Cymdeithasfa bwysig ar amryw gyfrifon, ond nid yw ei hanes yn ysgrifenedig yn nghofnodau Trefecca. Agorwyd y gynhadledd gyda phregeth gan John Powell, yr offeiriad o Sir Fynwy. Meddai Harris: "Yr oeddwn yn ddifrifol ac yn drymaidd, ond nid yn yr Yspryd, wrth wrando. Eithr cefais nerth i ymdrechu drosto, ar i Dduw lewyrchu arno, a daeth yr Arglwydd i lawr. Yna ciniawasom; a phregethodd y brawd G. oddiar Ioan i. 1, 2. Yr oedd ganddo gyflawnder o eiriau, ond yr oedd wedi ei adael yn hollol, a ninau yn sych yn ymddangosiadol. Yr oedd yr Arglwydd fel pe yn mhell oddiwrthym. Trywanwyd fi wrth glywed y brawd Rowland yn dweyd fod yr Arglwydd fel pe yn gadael y