Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynghorwyr. Gwelwn hyn fy hunan, mewn cysylltiad â mi ac eraill. Bendithiwyd yr ymadrodd; rhoddwyd i ni ryw gymaint o wyliadwriaeth, a zêl, a galar am ein gwrthgiliad parhaus oddiwrth yr Arglwydd, a'n heilunaddoliaeth, a'n puteindra ysprydol. Ond, yn sicr, nid oedd ein cyfarfod eto yn llawn o Dduw. Wrth ddarllen llythyr oddiwrth y brawd Howell Davies, yn datgan y fath anrhydedd oedd cael pregethu gwaed Crist, cefais oleuni ac argyhoeddiad i weled nad yw gogoniant y gwaed hwn ond prin dechreu dyfod i'r golwg. Darllenasom ddau lythyr o Fynwy a Morganwg gyda golwg ar ymadael oddiwrthym." Pa gymdeithas yn Sir Fynwy a anfonodd y cyfryw lythyr sydd anhysbys, ond yr oedd y llythyr o Sir Forganwg oddiwrth gynghorwyr y Groeswen, ac y mae mor bwysig, ac mor nodweddiadol o deimlad llawer o'r cynghorwyr ar y pryd, fel yr haedda gael ei gofnodi oll. Fel hyn y darllena:—

"At yr anwyl frodyr yn gyffredinol, a'r gweinidogion yn neillduol, cynulledig yn Nghayo, anfon anerch.

"Gras fyddo gyda chwi oll. Amen. Yr ydym yn credu am danoch mai rhai ydych sydd anwyl gan Dduw, a bod Duw yn anwyl genych chwithau, a'ch bod mewn modd neillduol wedi cael eich galw gan Dduw i waith y weinidogaeth, a bod achos Duw yn agos atoch, ac yn pwyso ar eich ysprydoedd; a'ch bod wedi cael adnabyddiaeth helaeth o'i ewyllys, ac o herwydd hyny angenrhaid a osodwyd arnom i ddanfon atoch fel rhai a dderbyniodd y gras o gydymdeimlad â ni, ac amryw eraill sydd yr amser hwn mewn llawer o gaethiwed, o herwydd yr annhrefn sydd yn ein plith. Mae ein cydwybodau wedi eu rhwymo gan Air Duw, fel nas gallwn barhau fel hyn allan o drefn Duw; canys gweled yr ydym fod Duw wedi gosod trefn yn ei eglwys, er y dechreuad, yr hon sydd i barhau hyd y diwedd. Ni a dybygem mai eich dyledswydd chwi yw cydymdeimlo â ni yn yr achos mawr hwn; canys chwi a fuoch yn anogaeth i ni fyned dros Dduw allan o drefn ; ac er dim a wyddom ni fe'n llwyddodd Duw ni mewn mesur, ac a fydd i chwi, fel goruchwylwyr da yn nhŷ Dduw, ymegnio i ddwyn y gwaith da hwn yn mlaen i drefn? Mae yn annhebygol iawn i un corph o bobl barhau fel hyn dros ei holl amser. Yr y'm ni yn disgwyl am gael eich meddyliau chwi yn yr achos hwn, yn agos er ys dwy flynedd, ac nid y'm yn gweled dim argoel eich bod chwi wedi pwyso y mater hwn fel y dylasai gael; ond yr y'm yn ofni fod gormod o ragfarnau yn eich dygiad i fynu yn nglyn wrthych. Ein meddwl yw, eich bod yn ormod yn nglyn wrth yr Eglwys Sefydledig. Yr ydym ni yn gweled pe bai chwi yn cael eich ordeinio yn Eglwys Loegr, fel ag yr ydych yn disgwyl, na byddai hyny yn ddigon i wneuthur yn esmwyth amrywiol o frodyr a chwiorydd yn y wlad; canys eisiau sydd arnynt gael rhai i weinidogaethu y Gair a'r ordinhadau iddynt yn ei bryd, ac i edrych drostynt fel bugail dros y praidd, ac y byddai raid i ni gael ein hatal, neu fod fel ag yr ydym, yr hyn beth nis gallwn feddwl ar ei wneuthur.

"Yr ydym wedi rhoddi ein hachos yn llaw Duw, gan obeithio, os na fydd i chwi dosturio wrthym, y bydd i Dduw agor ffordd i ni gael gwell trefn. O frodyr, y mae yn dost genym glywed nad oes genych ddim rhyddid i ni gynghori, o herwydd nad ydym wedi ein hordeinio; ac nad ydych, can belled ag y gallwn ni weled, yn gofalu pa un a gaffom ni ein hordeinio a'i peidio. Os na fydd i chwi gydymdeimlo â ni, yr ydym yn gweled fod galwad i ni droi ein golygon ffordd arall, a Duw fyddo yn gyf arwyddwr i ni. Yr ydym yn cyfaddef mai eich llafur chwi ydym, ac y mae yn dost genym orfod ymadael â chwi, a rhoi lle i eraill ddyfod i mewn i'ch llafur chwi; eto, yr ydym yn rhwym i dori trwy bob anhawsdra, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu, a chydwybod dda. Ac nid ydym yn gwneuthur hyn mewn byrbwylldra. ond gan ei ystyried yn ddwys ac yn ddifrifol; ac fel y mae yn cael ei ystyried y mae yn dyfod yn nes atom, fel ag y mae yn anhawdd ei ddyoddef. Un achos paham y mae ein cydwybodau mor gaethiwus yw, o herwydd fod trefn o arddodiad dwylaw yn cael ei arfer yr amser gynt, sef amser yr apostolion, ar bob math ag oedd yn gweinidogaethu y Gair, nid yn unig yr esgobion a'r henuriaid, ond hefyd y diaconiaid, fel y gallwch weled yn Actau vi. 6: Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo hwy a osodasant eu dwylaw arnynt hwy.' Wedi hyn yr ydym yn cael hanes am yr effaith ragorol a ganlynodd, fel y gellwch weled yn y wers ganlynol. Mae yn debygol fod y rhai hyn, fel ninau, wedi bod lawer gwaith yn llefaru, a bod Duw yn eu llwyddo; eto, feallai, nad oedd gan yr esgobion a'r henuriaid hollol ryddid iddynt,