darllenwyd cofnodau y Gymdeithasfa flaenorol; derbyniwyd arian o wahanol leoedd at y gyfraith; ymgynghorwyd am y modd i'w chario yn mlaen; a phenderfynwyd fod Harris, a Price, o Watford, i ymweled a'r cyfreithiwr. Trefnwyd brodyr, hefyd, i ymweled â Gogledd Cymru. Boreu yr ail ddiwrnod, darllenwyd yr adroddiadau, ac yr oeddynt yn dra melus. "Ond," meddai Harris, "yr oedd y brawd Rowland yn eiddigus o honof fi gyda golwg ar y Drindod. Yr oedd wedi digio oblegyd rhywbeth a ddywedais gyda golwg ar ein bod yn rhanu y Duwdod yn gnawdol, ac yn gosod y Tad uwchlaw y Mab. Dywedais wrtho fy mod yn ofni nad oedd yn adnabod yr Arglwydd, a bloeddiais gydag awdurdod: Nid oes ond un Duw, ac fe ymleda y goleuni hwn dros y byd, er gwaethaf pob gwrthwynebiad! Pan y darllenaf y Puritaniaid, nid wyf yn cael fy mod yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn un dim. Dirmygodd (Rowland) fi, a dywedodd nad oeddwn yn darllen nac yn pregethu yr Ysgrythyr. Syrthiais dan hyn, a dywedais: Y mae yn wir nad wyf yn astudio nac yn myfyrio digon ar yr Ysgrythyrau; hoffwn fyfyrio ynddynt bob moment, a'm gofid yw fy mod yn methu !' Gwrthwynebai dystiolaeth yr Yspryd. Atebais, er fod llawer yn twyllo eu hunain, eto, rhoddir ateb i weddi. Yna, yr ystorm a chwythodd drosodd, a phan oedd pob peth yn dawel, gwahoddodd fi yn galonog i Sir Aberteifi." Amlwg yw fod y naill a'r llall yn meddu tymherau poethlyd, ac yn eu cyffro yn dweyd pethau caledion am eu gilydd. Prin yr oedd heddwch wedi ei adfer, pan y daeth llythyr i'r Gymdeithasfa, yn anuniongyrchol oddiwrth fyfyrwyr athrofa y dref, yn cynwys hèr i ddadl, gyda golwg ar rywbeth a ddywedasai Harris yn ei bregeth. Yn ganlynol, rhuthrodd y myfyrwyr i'r cyfarfod, ac etholasant un o'u mysg i fod yn enau drostynt mewn dadl. Yr oedd hyn yn ymddygiad tra anweddus; a chan mai pregethwyr ieuainc yr athrofa Ymneillduol oedd y nifer amlaf o honynt, yr oedd yr hyn a wnaethant yn fwy annheilwng fyth. Dywed Harris fod llawer o dymher ddrwg wedi cael ei hamlygu o'r ddwy ochr; yn neillduol o'i du ef, pan y ceryddai hwy am eu balchder. Maentymient hwy, igychwyn, fod Harris yn dinystrio rheswm. Atebai yntau fod teimlad dwfn yn rhwym o ymddangos. "Beth," meddai, "pe bai drwgweithredwr ar y ffordd i'r crogbren yn derbyn pardwn o law'r brenhin; a mwy, yn cael sicrwydd ei fod i gael ei fabwysiadu i deulu y brenhin, ai ni floeddiai dros y lle?" Addefodd yr efrydwyr fod ei gymhariaeth yn anwrthwynebol. Yn ganlynol, dechreuodd wneyd gwawd o honynt, gan ddweyd eu bod wedi dysgu ymresymu wrth reol, a holai iddynt paham na ddygasent eu meistr gyda hwynt. Pan yr achwynent oblegyd y wawdiaeth, dywedai ei fod yn dilyn y cyfarwyddyd Ysgrythyrol, sef ateb y ffol yn ol ei ffolineb. Dywedodd, yn mhellach, ei fod yn synu at eu balchder, a'u gwaith yn ymosod ar gorph o bobl lafurus gyda chrefydd, ac mai hyn oedd yr ymosodiad agored cyntaf a wnaed ar y Gymdeithasfa. Cyhuddai un o honynt ef o ddweyd y gosodai yr Ymneillduwyr ef, pe y medrent, yn uffern. Gwadodd Harris i'r fath ymadrodd ddisgyn erioed dros ei wefusau. "Dywedais," meddai, nas gallwn oddef i neb fychanu y gweinidogion Ymneillduol, fy mod yn meddwl yn uchel am lawer o honynt, a'm bod am heddwch. Ceryddais y dyn ieuanc, Evan William, a ddychwelasai o Ogledd Cymru, am mai efe oedd wedi cyffroi yr Ymneillduwyr yn erbyn gwaith Duw." Yn sicr, yr oedd yn syn gweled Evan William, a fuasai yn gynghorwr yn mysg y Methodistiaid, yn awr yn mysg y terfysgwyr a ruthrent i'r Gymdeithasfa. Ceryddodd ŵr ieuanc arall, yr hwn a daenasai y chwedl trwy y dref fod yr offeiriaid yn dyfod i wrthwynebu Harris a'i ganlynwyr, a bod rhagolygon golygus am derfysg. "Yr wyf yn gobeithio," meddai, "y bendithir hyn iddynt, i ddarostwng eu balchder, oblegyd teimlwn gariad at eu heneidiau."
Ar y nawfed o Fai, agorodd ysgol yn Nhrefecca, ac aeth o gwmpas y rhieni i'w cymhell i anfon eu plant yno. Yr oedd er ys rhai blynyddoedd yn adeiladu tŷ yn Nhrefecca; a oedd casglu teulu mawr yno, o wahanol gymydogaethau, er rhoddi iddynt fanteision crefyddol, yn fwriad ganddo ar hyn o bryd, sydd anhawdd ei benderfynu. Yr wythnos ganlynol, cawn ef mewn Cyfarfod Misol yn Dyserth. Adroddodd wrth y brodyr hanes y Gymdeithasfa yn Nghaerfyrddin; y gwrthwynebiad a gawsid oddiwrth yr efrydwyr; eglurodd ei ymddygiad tuag at yr Ymneillduwyr; trefnodd gyda golwg ar gael ysgol yno; a phenderfynodd fod y dydd Iau canlynol i gael ei dreulio mewn gweddi. Yr oedd yno gynghorwyr o Sir Drefaldwyn, a gawsent eu